Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Teithiau cerdded i ddysgwyr gyda’r cyflwynydd teledu Iolo Williams

Teithiau cerdded i ddysgwyr gyda’r cyflwynydd teledu Iolo Williams

Dych chi’n ‘nabod Iolo Williams?  Mae Iolo Williams yn cyflwyno rhaglenni natur Springwatch, Autumnwatch a Winterwatch ar BBC2 ac i’w weld yn aml ar raglenni natur S4C.

Yn ystod mis Ebrill – Gorffennaf, bydd Iolo yn arwain pedair taith gerdded i ddysgwyr, o’r enw ‘Ar Droed’. Dyma gyfle arbennig i chi fwynhau sgwrs yn Gymraeg, yn yr awyr agored.

Y pedair taith fydd:

  • 23/4/22 - Parc Margam, Castell Nedd Port Talbot (lle i 20 person)
  • 8/5/22 - Ardal Dinbych (lle i 20 person)
  • 29/6/22 - Cwm Idwal, Parc Cenedlaethol Eryri (lle i 20 person)
  • 4/7/22 - Libanus, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (lle i 20 person)

Ar yr un dyddiadau, bydd teithiau lleol eraill yn cael eu cynnal ar draws Cymru. Felly os nad oes lle ar daith gyda Iolo Williams, mae digon o gyfleoedd eraill i sgwrsio tra’n crwydro.

Blodau gwyllt
Dail y coed

Mae’r teithiau cerdded ‘Ar Droed’ yn brosiect ar y cyd rhwng Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Maent hefyd yn rhan o her #MiliwnOGamau Mentrau Iaith Cymru – ymdrech grŵp i gerdded miliwn o gamau rhwng Ebrill a Gorffennaf 2022. Y gobaith yw rhoi mwy o gyfleoedd i bobl gymdeithasu yn Gymraeg, a chefnogi nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y teithiau rhad ac am ddim hyn, e-bostiwch ardroed@mentrauiaith.cymru