Roedd pawb yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn drist iawn i glywed y newyddion am farwolaeth Kevin Davies yn Quatar. Meddai llefarydd ar ran y Ganolfan:
"Gyda chalon drom iawn y clywsom am farwolaeth Kevin Davies. Un o garedigion yr iaith Gymraeg oedd Kevin, a braint oedd cydweithio ag ef wrth iddo arwain y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg yn Sir Benfro tan ei ymddeoliad.
"Elwodd miloedd o ddysgwyr y Gymraeg o'i ddidwylledd a'i ymroddiad.
"Gwnaeth hefyd gyfraniad mawr i waith Urdd Gobaith Cymru dros y blynyddoedd yn ei filltir sgwâr ac yn genedlaethol.
"Rydym yn estyn pob cydymdeimlad at ei deulu a'i ffrindiau."