Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Teyrnged

Roedd pawb yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn drist iawn i glywed y newyddion am farwolaeth Kevin Davies yn Quatar.  Meddai llefarydd ar ran y Ganolfan:

"Gyda chalon drom iawn y clywsom am farwolaeth Kevin Davies.  Un o garedigion yr iaith Gymraeg oedd Kevin, a braint oedd cydweithio ag ef wrth iddo arwain y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg yn Sir Benfro tan ei ymddeoliad.

"Elwodd miloedd o ddysgwyr y Gymraeg o'i ddidwylledd a'i ymroddiad.

"Gwnaeth hefyd gyfraniad mawr i waith Urdd Gobaith Cymru dros y blynyddoedd yn ei filltir sgwâr ac yn genedlaethol.

"Rydym yn estyn pob cydymdeimlad at ei deulu a'i ffrindiau."