Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
"Roedd Bobi Jones yn adnabyddus fel bardd a beirniad llên, ond mae ei gyfraniad i faes dysgu'r Gymraeg i oedolion yr un mor werthfawr. Pan oedd yn ddarlithydd ifanc, treuliodd amser yn Quebec, Canada, gan astudio dulliau dysgu'r Ffrangeg yno. Aeth ati i roi'r egwyddorion ar waith yng Nghymru, a bu ei ddylanwad yn gryf ar genhedlaeth o athrawon Cymraeg. Cofir amdano fel un o sylfaenwyr CYD, a'r weledigaeth o ddod â dysgwyr a siaradwyr rhugl ynghyd, trwy gymdeithasu. Mae'r maes yn ddyledus iddo am ei waith a'i weledigaeth, ac estynnwn ein cydymdeimlad â Beti, Lowri, Rhodri a'r teulu cyfan."