Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Teyrnged i'r Athro Emeritws Bobi Jones

Teyrnged i'r Athro Emeritws Bobi Jones

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

"Roedd Bobi Jones yn adnabyddus fel bardd a beirniad llên, ond mae ei gyfraniad i faes dysgu'r Gymraeg i oedolion yr un mor werthfawr.  Pan oedd yn ddarlithydd ifanc, treuliodd amser yn Quebec, Canada, gan astudio dulliau dysgu'r Ffrangeg yno. Aeth ati i roi'r egwyddorion ar waith yng Nghymru, a bu ei ddylanwad yn gryf ar genhedlaeth o athrawon Cymraeg.  Cofir amdano fel un o sylfaenwyr CYD, a'r weledigaeth o ddod â dysgwyr a siaradwyr rhugl ynghyd, trwy gymdeithasu. Mae'r maes yn ddyledus iddo am ei waith a'i weledigaeth, ac estynnwn ein cydymdeimlad â Beti, Lowri, Rhodri a'r teulu cyfan."