Cyfle am waith fel tiwtor Cymraeg
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn chwilio am bobl i weithio fel tiwtoriaid Cymraeg yn dilyn blwyddyn brysur o wersi ar-lein.
Gobaith y Ganolfan yw casglu cronfa o enwau fyddai â diddordeb gweithio fel tiwtor, gyda’r oriau gwaith yn gallu amrywio o ddwy awr i dros 20 awr yr wythnos.
Mae’r Ganolfan yn chwilio am diwtoriaid ym mhob cwr o Gymru.
Yn ôl Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mi ydym ni yn chwilio am griw newydd, brwdfrydig i ymuno gyda’r tiwtoriaid gwych sydd eisoes yn gweithio gyda ni.
“Mae profiad dysgu blaenorol neu wybodaeth am ddysgu iaith yn ddelfrydol, ond brwdfrydedd ac ymroddiad at y Gymraeg yw’r nodweddion sy’n hollbwysig. Mae galw parhaus am diwtoriaid i ddysgu’r miloedd o oedolion sy’n cofrestru ar gyrsiau gyda ni bob blwyddyn.”
Mae’r dysgwyr yn dysgu ar bum lefel wahanol – o gyrsiau Mynediad ar gyfer dechreuwyr, i gyrsiau Uwch a Hyfedredd ar gyfer y rheiny sy’n siaradwyr profiadol.
Caiff dosbarthiadau fel arfer eu cynnal wyneb-yn-wyneb, mewn cymunedau, ond o ganlyniad i bandemig Covid-19 a’r cyfyngiadau sydd wedi dod yn ei sgîl, mae’r ddarpariaeth i gyd ar-lein ar hyn o bryd, gyda chyrsiau yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol.
Ychwanegodd Helen, “Yn ogystal â dysgu’r iaith, mae gan diwtoriaid rôl hollbwysig i’w chwarae i gefnogi dysgwyr a chroesawu siaradwyr newydd, gan gyflwyno cyfleoedd i ddysgwyr fwynhau defnyddio’r iaith yn eu bywydau o ddydd i ddydd.
“’Dyn ni’n ymfalchïo’n fawr yn ein tiwtoriaid ni sy’n rhan gwbl greiddiol o genhadaeth y Ganolfan, i ddenu a chefnogi siaradwyr newydd y Gymraeg. Mae brwdfrydedd ac egni’r tiwtoriaid yn gwneud y profiad yn un cofiadwy a chyffrous i’r dysgwr. ’Dyn ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â’r sector gyfeillgar a chefnogol yma, i gofrestru eu manylion.”