Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Tiwtoriaid Cymraeg

Tiwtoriaid Cymraeg

Cyfle am waith fel tiwtor Cymraeg


Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn chwilio am bobl i weithio fel tiwtoriaid Cymraeg yn dilyn blwyddyn brysur o wersi ar-lein.

Gobaith y Ganolfan yw casglu cronfa o enwau fyddai â diddordeb gweithio fel tiwtor, gyda’r oriau gwaith yn gallu amrywio o ddwy awr i dros 20 awr yr wythnos.

Mae’r Ganolfan yn chwilio am diwtoriaid ym mhob cwr o Gymru.

Yn ôl Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mi ydym ni yn chwilio am griw newydd, brwdfrydig i ymuno gyda’r tiwtoriaid gwych sydd eisoes yn gweithio gyda ni.

“Mae profiad dysgu blaenorol neu wybodaeth am ddysgu iaith yn ddelfrydol, ond brwdfrydedd ac ymroddiad at y Gymraeg yw’r nodweddion sy’n hollbwysig.  Mae galw parhaus am diwtoriaid i ddysgu’r miloedd o oedolion sy’n cofrestru ar gyrsiau gyda ni bob blwyddyn.”

Mae’r dysgwyr yn dysgu ar bum lefel wahanol – o gyrsiau Mynediad ar gyfer dechreuwyr, i gyrsiau Uwch a Hyfedredd ar gyfer y rheiny sy’n siaradwyr profiadol.  

Caiff dosbarthiadau fel arfer eu cynnal wyneb-yn-wyneb, mewn cymunedau, ond o ganlyniad i bandemig Covid-19 a’r cyfyngiadau sydd wedi dod yn ei sgîl, mae’r ddarpariaeth i gyd ar-lein ar hyn o bryd, gyda chyrsiau yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol.

Ychwanegodd Helen, “Yn ogystal â dysgu’r iaith, mae gan diwtoriaid rôl hollbwysig i’w chwarae i gefnogi dysgwyr a chroesawu siaradwyr newydd, gan gyflwyno cyfleoedd i ddysgwyr fwynhau defnyddio’r iaith yn eu bywydau o ddydd i ddydd.

“’Dyn ni’n ymfalchïo’n fawr yn ein tiwtoriaid ni sy’n rhan gwbl greiddiol o genhadaeth y Ganolfan, i ddenu a chefnogi siaradwyr newydd y Gymraeg.  Mae brwdfrydedd ac egni’r tiwtoriaid yn gwneud y profiad yn un cofiadwy a chyffrous i’r dysgwr. ’Dyn ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i ymuno â’r sector gyfeillgar a chefnogol yma, i gofrestru eu manylion.”