Croesawu Tiwtoriaid Yfory!
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi croesawu criw o bobl ifanc i Gaerdydd y mis yma, i ddilyn hyfforddiant ‘Tiwtoriaid Yfory’.
Y bwriad yw annog mwy o bobl ifanc i weithio yn y sector Dysgu Cymraeg, a’u cyflwyno i’r posibiliadau o gael gyrfa ym myd addysg.
Bydd llu o dasgau ymarferol, yn ogystal â chyfle i arsylwi tiwtoriaid profiadol a dysgu gan siaradwyr gwadd, gyda’r cyfan dan arweiniad Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan.
Mae mwy o wybodaeth am weithio fel Tiwtor Dysgu Cymraeg ar gael yma.