Croeso i'r sector Dysgu Cymraeg
Croeso!
Beth am fod yn diwtor Dysgu Cymraeg i oedolion?
Mae’r dudalen hon yn rhoi blas i chi o’r hyn yw bod yn diwtor yn y sector Dysgu Cymraeg. Beth am bori drwy’r fideos a’r dolenni am fwy o wybodaeth am y profiad o fod yn diwtor; y sgiliau sydd eu hangen; y modd mae dysgwyr yn cael eu hysbrydoli gan diwtoriaid; sut mae mynd ati i wneud cais am swydd tiwtor; a llawer mwy.
Ewch amdani…
Gair Gan Diwtoriaid
Dyma atebion pedwar tiwtor - Menna Charlton, Elwen Owen, Bethan Gwanas, a Mair Price - i'r cwestiwn: Beth yw'r peth gorau am fod yn diwtor?

A dyma'r ymatebion i: Rhowch dip i diwtoriaid newydd!

A dyma'r ymatebion i: Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y sector Dysgu Cymraeg?

Gwersi Da a Gwael!
Gwers Dda: Mae'r clip fideo byr uchod yn rhoi blas i chi o rai arferion da mewn dosbarth Dysgu Cymraeg. Yn y clip, mae enghreifftiau o dasgau sgwrsio, adolygu patrymau blaenorol, cyflwyno patrymau a geirfa newydd, drilio, modelu, ennyn diddordeb y dysgwyr a chael digon o hwyl yn y dosbarth.
Gwers Wael: Uchod, mae clip fideo byr i dynnu eich sylw at rai arferion gwael mewn dosbarth. Yn y clip yma, mae’r tiwtor yn defnyddio Saesneg yn unig wrth siarad yn gyffredinol ac esbonio patrymau. Mae defnyddio Cymraeg syml o’r cychwyn cyntaf yn hollbwysig. Yn ail ran y clip, mae’r tiwtor yn defnyddio Cymraeg yn unig, wedi i’r wers ddechrau. Mae’n arfer dda i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’r dysgwyr wrth iddynt gyrraedd a gadael y wers hefyd, er mwyn i’r dysgwyr roi eu Cymraeg ar waith o’r dechrau. Hefyd, yn y clip, mae enghraifft o gyflwyno gramadeg ar lefel sy'n rhy anodd a chymhleth i’r dysgwyr. Mae’n bwysig iawn esbonio sut mae’r iaith yn gweithio yn syml ac yn bwrpasol ar gyfer y lefel gywir. Yn ogystal â hynny, mae’n bwysig cyflwyno’r patrymau’n drefnus a rhoi adborth ystyrlon i’r dysgwyr wrth iddynt ymarfer. Nodwedd arall sy’n hollbwysig yw proffesiynoldeb e.e. nid yw delio ag archebion o’r archfarchnad yn ystod y wers yn arfer dda! Mae’n hollbwysig bod y tiwtor yn cymryd rhan yn y wers er mwyn gallu rhoi adborth ystyrlon i’r dysgwyr a bod yn rhan o’r bwrlwm.
Gair Gan Diwtoriaid
Gwrandewch ar y clipiau isod i glywed cynghorion pedwar tiwtor Dysgu Cymraeg.
Helen Young:
John Woods:
Sarah Meek:
Iwan Madog Jones: