Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Tiwtoriaid Yfory 2023

Tiwtoriaid Yfory 2023

Cyfle am ysgoloriaeth o hyd at £2,000 i Diwtoriaid Yfory

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn cynnig ysgoloriaethau o hyd at £2,000 i alluogi myfyrwyr i gael blas ar waith fel tiwtor Dysgu Cymraeg a/neu athro neu athrawes y Gymraeg.

Bydd y Ganolfan yn cynnal cwrs hyfforddiant pythefnos o hyd yn ystod haf 2023 sy’n cyflwyno’r sector Dysgu Cymraeg.  Bydd cyfle hefyd i dreulio hyd at bythefnos yn arsylwi gwersi Cymraeg mewn ysgolion uwchradd.

Nod yr ysgoloriaethau yw annog mwy o bobl ifanc i weithio yn y sector Dysgu Cymraeg a’u cyflwyno i’r posibilrwydd o gael gyrfa ym myd addysg.  

Dyma’r eildro i’r Ganolfan gynnal y cwrs pythefnos.  Roedd Elinor Staniforth, sy bellach yn gweithio fel tiwtor Dysgu Cymraeg dan hyfforddiant, ar y cwrs cyntaf y llynedd. 

Meddai Elinor, ‘‘Roedd y cwrs yn wych, ac mi wnes i wir fwynhau. Efallai mai beth wnes i fwynhau fwyaf oedd yr ysbrydoliaeth ges i gan y tiwtoriaid ddaeth i sôn am eu profiadau yn gweithio y maes. Mi oedden nhw mor angerddol am ddysgu Cymraeg a sut y gall newid bywydau pobl – ac fel rhywun sy wedi dysgu Cymraeg, galla i uniaethu â hynny. 

“Mi oedd yn hyfryd hefyd cyfarfod pobl yr un oed â mi sy’n siarad Cymraeg. Dw i wedi fy magu yng Nghaerdydd, ond dw i ddim yn adnabod llawer o bobl fy oed i sy’n siarad Cymraeg, felly roedd hi’n wych cyfarfod cymaint o bobl ifanc eraill sy’n angerddol am yr iaith.

“Mae’r cwrs yn addas i unrhyw berson ifanc sydd â diddordeb yn y Gymraeg. Ti’n dysgu lot am y sector Dysgu Cymraeg i oedolion ac mi oedd wir yn ddiddorol.”

Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Pleser pur oedd treulio pythefnos yng nghwmni 12 o Diwtoriaid Yfory yn ystod mis Gorffennaf 2022. 

“Yn dilyn sesiynau ymarferol, cyfleoedd i arsylwi gwersi a sesiynau gan siaradwyr gwadd, mae’n wych dweud bod chwech o’r bobl ifanc eisoes yn gweithio fel tiwtoriaid Dysgu Cymraeg.

“Bydd gennym rai o diwtoriaid mwyaf profiadol y sector Dysgu Cymraeg i oedolion yn hyfforddi ar y cwrs eto eleni.  Mae’n braf, hefyd, ein bod yn gallu ymestyn y cynnig i roi’r opsiwn i dreulio pythefnos yn arsylwi gwersi Cymraeg mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg neu Gymraeg. 

“’Dyn ni’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir, ac yn edrych ymlaen at gynnig profiadau dysgu ac addysgu gwerthfawr iddynt.”

Yn ogystal â chynnig hyd at £2,000 o ysgoloriaeth, bydd y Ganolfan hefyd yn talu costau llety a chynhaliaeth i’r ymgeiswyr llwyddiannus yn ystod y cyfnod yng Nghaerdydd, os oes angen.

Ychwanegodd Helen, “Gyda galw cynyddol am diwtoriaid ac athrawon Cymraeg ledled Cymru, ’dyn ni angen cyflenwad cyson o dalent newydd ac mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael blas ar y gwaith.

“Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc wneud cais – ’dyn ni’n chwilio am bobl all ysbrydoli eraill i ddysgu a siarad Cymraeg, gyda sgiliau cadarn yn y Gymraeg eu hunain.”

Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth yw 31 Ionawr 2023 a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu ddiwedd Chwefror 2023.

Mae mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaethau i’w gweld yn: Ysgoloriaethau Tiwtoriaid Yfory | Dysgu Cymraeg

DIWEDD