Mae profiadau David Thomas a Gwilym Morgan o ddysgu Cymraeg wedi’u hysbrydoli i fynd ati i ddysgu’r iaith i eraill.
Ar ôl dilyn cwrs Tiwtoriaid Yfory yn 2025 – cynllun y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n rhoi blas i fyfyrwyr ar waith tiwtoriaid Dysgu Cymraeg i oedolion – mae David a Gwilym bellach yn gweithio fel tiwtoriaid gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Sir Benfro ar ran y Ganolfan Genedlaethol.
Dechreuodd David, o Gaerdydd, ddysgu Cymraeg yn 2016, ar ôl symud yn ôl i Gymru ac ymgartrefu yn Sir Gâr, wedi cyfnod yn byw a gweithio yn Llundain. David oedd enillydd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod AmGen 2021. Mae David yn dysgu cyrsiau wyneb yn wyneb, gan gynnwys cwrs Mynediad dwys yn Sir Benfro, a chwrs Mynediad yng Nghaerfyrddin.
Meddai David, “Fel rhywun sy wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn, ac sy wedi elwa o ddysgu’r iaith yn fy mywyd personol ac yn fy musnes dwyieithog, mae’r iaith Gymraeg yn docyn mynediad at holl ddiwylliant Cymraeg. Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd, ac mae’r iaith a’i dyfodol mor bwysig.
“Dw i’n gwybod sut fath o deimlad yw bod yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r ffaith fy mod i’n gallu cyflwyno’r iaith i bobl sy’n newydd i’r Gymraeg, gyda’r gobaith o roi profiad cadarnhaol iddynt, a’u hannog i barhau â’r iaith, yn deimlad arbennig.”
Dechreuodd Gwilym, o Gaerdydd, ddysgu Cymraeg fel ail-iaith mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg. Mae Gwilym bellach yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn dysgu cwrs Mynediad dwys ar-lein, bedair awr yr wythnos. Roedd ennill gwobr Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 hefyd wedi rhoi hwb a hyder iddo barhau â’i Gymraeg a sefydlu ei fusnes ei hun, GM Notebooks.
Meddai Gwilym, “Oherwydd fy nghefndir i, a finnau wedi dysgu Cymraeg fy hun, roedd swydd yn dysgu Cymraeg i oedolion yn apelio’n fawr.
“Mae’n hyfryd dod i adnabod pobl eraill drwy ddysgu. Dw i’n adnabod fy nosbarth i’n dda iawn erbyn hyn ac mae’n llawer o hwyl dysgu’r iaith iddyn nhw.
“Dw i’n mwynhau fy swydd yn fawr, ac mae’n grêt gallu cyfuno tiwtora gyda fy astudiaethau yn y brifysgol.”
Yn ystod cwrs Tiwtoriaid Yfory, mae’r myfyrwyr yn cael pythefnos o hyfforddiant, gan gynnwys sesiynau amrywiol ar sut i fod yn diwtor Dysgu Cymraeg, egwyddorion addysgu, dysgu ac asesu, cynllunio gwersi, defnyddio adnoddau priodol, cyfleoedd i arsylwi gwersi, ac ymweliadau gan siaradwyr gwadd. Y nod yw annog myfyrwyr i fynd ymlaen i weithio fel tiwtoriaid Dysgu Cymraeg.
Meddai David, “Mae cwrs Tiwtoriaid Yfory yn dangos ei bod yn bosib i chi ddod yn diwtor yn eithaf cyflym. Mae adnoddau ar gael i’ch cefnogi, ac mae rhwydwaith o diwtoriaid profiadol yno i roi cymorth a’ch croesawu i’r sector Dysgu Cymraeg. Mae’r sector yn un mor agored, cynnes a chefnogol, ac mae cymorth ar gael bob amser.”
Meddai Gwilym, “Roedd y cwrs yn wych. Roedd yn brofiad da gweld sut mae’r broses o ddysgu Cymraeg yn gweithio, a sut mae gwersi’n cael eu strwythuro.
“Un o’r uchafbwyntiau i fi oedd arsylwi gwersi, a chael y gymuned ’na a chriw o ffrindiau erbyn diwedd.”
Am ragor o wybodaeth am y cynllun, ac i wneud cais, dilynwch y ddolen nesaf: Tiwtoriaid Yfory