Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas

Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas

Llongyfarchiadau i Helen!

Helen Williams o Grymych yw enillydd Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Cyflwynwyd y wobr i Helen gan Rhiannon Gregory mewn seremoni yng nghanolfan y dysgwyr, Shw’mae Caerdydd, yn ystod yr Eisteddfod.

Mae’r wobr yn cael ei rhoi i diwtor Cymraeg sydd yn, neu wedi gwneud cyfraniad nodedig, i’r sector Dysgu Cymraeg.

Mae Helen wedi gweithio yn y maes ers 1985, ac wedi gweithio fel tiwtor yng Nghaerdydd, Abertawe, Ceredigion a Sir Benfro.

Ar hyn o bryd, mae Helen yn gweithio fel Prif Diwtor gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, un o ddarparwyr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Cyflwynir y Tlws er cof am Elvet a Mair Elvet Thomas.  Fel athro yn Ysgol Cathays, Caerdydd, ysbrydolodd Elvet Thomas genedlaethau o ddisgyblion, y mwyafrif o gartrefi di-Gymraeg, i ddysgu’r iaith.  Sefydlodd Adran o'r Urdd yn yr ysgol yn y 1920au, ac fe daflodd ei hun i mewn i holl weithgareddau'r mudiad yn y cyfnod cynhyrfus hwnnw.

Llongyfarchiadau mawr i Helen!

Helen Williams a Rhiannon Gregory