Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyflwyno Tlws y Tiwtor i Bethan Glyn

Cyflwyno Tlws y Tiwtor i Bethan Glyn
Yn y llun, o'r chwith i'r dde: Dona Lewis a Bethan Glyn

Cyflwynwyd Tlws y Tiwtor y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i Bethan Glyn.

Yn wreiddiol o fro’r Eisteddfod ym Mhen Llŷn, mae Bethan yn diwtor profiadol sydd wedi gweithio yn y sector Dysgu Cymraeg ers 15 mlynedd.

Fe ddechreuodd weithio fel tiwtor yn Nhalysarn a Bangor, cyn dod yn diwtor-drefnydd ardal Dwyfor ac yn ddiweddarach, yn diwtor-drefnydd ardal Arfon, gyda chyfrifoldeb am dîm o diwtoriaid amser llawn a rhan amser.

Mae Bethan wedi gweithio ar hyd yr amser gydag un o ddarparwyr y Ganolfan Genedlaethol, Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor, a bydd yn ymddeol eleni.

Mae Tlws y Tiwtor yn cael ei roi i diwtor sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i’r maes, ac fe’i gyflwynwyd i Bethan ar faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd gan Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Dona Lewis.

Meddai Dona Lewis:  “Yn ogystal â sgiliau diamheuol Bethan fel tiwtor a rheolwr, mae Bethan wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi dysgwyr a sicrhau bod cyfleoedd da iddynt ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg yn anffurfiol yn yr ardal.  Diolch enfawr i ti, Bethan, llongyfarchiadau a phob dymuniad da ar dy ymddeoliad.”

Ychwanegodd Ifor Gruffudd, Cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin: “Mae gan Bethan egni a brwdfrydedd anhygoel ac mae hi'n ymroi 100% i'w gwaith bob amser.  Chwaraeodd rôl hollbwysig yn ystod y pandemig, gan addasu’r ddarpariaeth wyneb yn wyneb yn llwyddiannus i gyfrwng rhithiol, yn ogystal â chefnogi tiwtoriaid Arfon i ddatblygu sgiliau TG, a gofalu am eu lles. 

“Mae Bethan yn angerddol am gefnogi siaradwyr newydd i wneud defnydd o’r iaith tu allan i’r dosbarth ac mae wedi creu sawl partneriaeth yn lleol i groesawu a chefnogi dysgwyr.  Mae Bethan wedi gwneud cyfraniad anferthol i’r maes yn y gogledd orllewin – llongyfarchiadau mawr.”

Meddai Bethan Glyn:  “Roedd hi’n dipyn o syndod clywed mod i wedi ennill Tlws y Tiwtor ond yn hyfryd bod hynny wedi digwydd yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, ardal sy’n bwysig iawn i mi. 

“Mae hi wedi bod yn bleser gweithio yn y maes Cymraeg i Oedolion, a dw i wedi bod yn ffodus iawn o gael gweithio efo criw arbennig o bobl ar hyd y daith. Mae fy niolch yn fawr i bawb sy wedi bod yn rhan o’r tîm ac mae hi’n braf gweld mwy a mwy o bobl ifanc brwdfrydig yn dod i weithio yn y maes.

“Ond yr hyn sy’n dod â’r pleser mwya ydy gweld datblygiad dysgwyr - yn dod yn siaradwyr newydd a mwynhau defnyddio’r iaith yn eu cymuned. Nid ar chwarae bach mae meistroli iaith ac mae hi mor bwysig i ni sy’n siaradwyr Cymraeg gefnogi a rhoi’r hyder i siaradwyr newydd ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd. Diolch i bawb sy wedi gwneud yr ymdrech i ddysgu’n hiaith - dw i mor falch ohonoch chi i gyd!”

Diwedd