Tomos yn mynd 'Am Dro'
Mae Tomos Hopkins, sy’n diwtor Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, yn cymryd rhan yn y gyfres hwyliog ‘Am Dro’ nos Sul, 18 Hydref am 8.00pm ar S4C. Bydd pedwar cystadleuydd yn brwydro i ennill gwobr mil o bunnoedd am y ‘tro’ gorau. Byddwn yn ymweld â Phenrhyn Gŵyr, Parc Margam, ger Port Talbot, Llangollen a Sir Benfro, ble mae Tomos yn arwain taith gerdded ar hyd llwybr yr arfordir. Gwyliwch i weld pwy sy’n ennill!
O ble wyt ti’n dod a beth yw dy gefndir di?
Dw i’n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond dw i’n byw yn Sir Benfro ers naw mlynedd.
Beth oedd y peth gorau am gymryd rhan yn y rhaglen?
Y peth gorau oedd cael y profiad o gerdded mewn rhai o ardaloedd prydfertha Cymru. Roedd yn hyfryd cwrdd a chymdeithasu â phobl newydd o gefndiroedd ac ardaloedd eraill hefyd.
Wyt ti’n mwynhau cerdded yn dy amser hamdden – i ba lefydd wyt ti’n mynd?
Dw i’n lwcus iawn i fyw yng ngorllewin Cymru. Dw i’n mwynhau cerdded ar lwybr yr arfordir ac yng nghefn gwlad.
Pa ‘dro’ y byddet ti’n argymell?
Roedd pob taith ar y rhaglen yn hwyl ond yn amlwg dw i’n hoff iawn o fy nhaith i yn Sir Benfro - does unman yn debyg!
Ers faint wyt ti’n diwtor Cymraeg?
Dw i wedi bod yn diwtor Cymraeg ers saith mlynedd ac yn mwyhau pob eiliad! Mae cael rhannu ein hiaith a’n diwylliant gyda siaradwyr newydd yn fraint ac yn bleser.
Ble wyt ti’n dysgu/pa ddosbarthiadau?
Ar hyn o bryd dw i’n dysgu saith dosbarth yn wythnosol. Dw i’n mwynhau cwrdd â phobl newydd a dod i adnabod y cymeriadau gwahanol sydd ym mhob dosbarth.
Beth yw dy hoff beth a dy gas beth?
Fy hoff beth i yw pan dw i’n clywed pobl yn dweud ‘Diolch’ - gair bach ond mor bwysig! Fy nghas beth i yw anghydraddoldeb o unrhyw fath.
Dy hoff lyfr Cymraeg?
Mwynheais i ddarllen ‘Y Fawr a’r Fach’ gan Siôn Tomos Owen yn ddiweddar. Mae’r llyfr yn llawn hwyl a hiwmor ac roedd pawb yn y clwb darllen lefel Sylfaen wedi elwa a mwynhau.
Dy hoff air Cymraeg?
Bendigedig!
Unrhyw gyngor i ddysgwyr y Gymraeg?
Defnyddiwch eich Cymraeg bob dydd. Gwnewch gamgymeriadau- dyna sut dyn ni’n dysgu! Byddwch yn bositif!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Egnïol, positif, hapus