Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Tymor newydd y Clwb Cwtsh

Tymor newydd y Clwb Cwtsh

Tymor newydd y Clwb Cwtsh ar fin dechrau

Mae ail flwyddyn y ‘Clwb Cwtsh’ – cyrsiau blasu’r Gymraeg ar gyfer rhieni a gofalwyr plant bach – ar fin dechrau.

Prosiect ar y cyd rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yw’r cynllun, un rhad-ac-am-ddim sy’n defnyddio gemau a chaneuon i gyflwyno’r Gymraeg.

Mae’r cyrsiau wyth wythnos o hyd yn ar gael mewn cymunedau ledled y wlad.  Mae croeso i fynychwyr ddod â’u plant gyda nhw, gan fod Mudiad Meithrin yn darparu adloniant ar eu cyfer.  Ar ddiwedd y cyfnod, mae’r dysgwyr yn cael eu hannog i ddilyn cyrsiau pellach.

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun yma, a rhestr o gysylltiadau.

Mae’r canwr Ian ‘H’ Watkins o’r grŵp pop Steps a’r diddanwr amryddawn Caryl Parry Jones ymhlith y rheiny sy’n cefnogi’r cynllun.

Meddai ‘H’, sy’n dysgu Cymraeg ac sy’n dad i efeilliaid dwyflwydd oed, Macsen a Cybi.  “Doedd gen i ddim amheuaeth nad o’n i am fagu’r bois yn ddwyieithog a fedra i ddim aros i’w clywed yn clebran yn Gymraeg. Chefais i mo’r cyfle i siarad yr iaith yn fy mhlentyndod yng Nghwm Parc, Y Rhondda ac roedd e’n holl bwysig i mi fy mod yn rhoi’r anrheg yma o allu siarad dwy iaith i Macs a Cybi.”

Meddai Dr Gwenllïan Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:  “Ers dechrau gweithredu’r cynllun Clwb Cwtsh rydym wedi derbyn ymateb da ledled Cymru. Mae’r ffaith ein bod yn gallu cynnig i blant ddod gyda’u teuluoedd wedi cael ei groesawu. Rydym yn edrych ymlaen i ehangu’r darpariaeth ac yn gyffrous iawn i barhau i weithredu’r cynllun hwn ar lawr gwlad.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Trwy gydweithio gyda Mudiad Meithrin gallwn gynnig cyfleoedd newydd i deuluoedd ddechrau dysgu’r iaith.  Mae’r cynllun yn cynnig dull hwyliog o ddysgu geirfa y gall rhieni a gofalwyr ddefnyddio yn y cartref gyda’u plant bach.  Gobeithiwn y bydd teuluoedd ar draws Cymru yn manteisio ar y cyfle newydd yma i ddechrau ar eu siwrne i ddysgu’r Gymraeg gyda ni.”

Lluniwyd y cyrsiau gan Nia Parry, sy’n adnabyddus am gyflwyno rhaglenni teledu ar S4C, yn arbennig rhai sydd wedi eu hanelu at ddysgwyr.