Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Rhagflas o gyfres newydd Eve

Rhagflas o gyfres newydd Eve

Cyfle i ddysgwyr gael blas ar rôl Gymraeg gyntaf Eve

Wrth i’r actores Eve Myles fynd i’r afael â’r Gymraeg am y tro cyntaf mewn rôl ddrama, yn Un Bore Mercher ar S4C, bydd cyfle i ddysgwyr gael rhagflas o’r gyfres ddrama newydd, diolch i wers gyfoes yn seiliedig arni.

Mae’r wers, sydd ar gyfer dysgwyr profiadol sydd wedi cyrraedd lefel Uwch, yn cynnwys clip fideo, cwis, cyfleoedd trafod ac ymarferion, yn ogystal â nodiadau ar gyfer tiwtoriaid.

Bydd yn cael ei chyflwyno mewn dosbarthiadau yn ystod yr wythnosau nesaf, cyn i Un Bore Mercher gael ei darlledu am y tro cyntaf am 9.00pm ar nos Sul, 5 Tachwedd.

Mae'r wers wedi’i llunio gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn un o gyfres o wersi cyfoes sy’n cael eu cyflwyno’n flynyddol, yn seiliedig ar wahanol agweddau ar fywyd modern Cymru.

Dyma’r eildro i’r Ganolfan Genedlaethol lunio gwers yn seiliedig ar un o gyfresi S4C; yn 2016 crëwyd gwers am y gyfres dditectif Y Gwyll/Hinterland.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae gwylio S4C yn ffordd dda i’n dysgwyr ymarfer eu Cymraeg, a thrwy gyfrwng y wers, byddwn yn annog ein dysgwyr i drafod, dysgu geirfa newydd a mwynhau’r gyfres newydd hon ar yr un pryd.

“Ry’n ni’n ddiolchgar i S4C unwaith eto am eu cydweithrediad wrth lunio’r wers.”

Meddai Gethin Scourfield, Comisiynydd Cynnwys Drama S4C:

“Mae’n bleser cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gynnwys Un Bore Mercher yn y dosbarthiadau mewn ffordd gyfoes a deinamig. O un bennod i’r nesa, bydd dirgelion a throellau’r stori’n rhoi digon o bynciau trafod, does dim amheuaeth am hynny!”

Diwedd

 

Nodiadau i’r golygydd 

Eve Myles sy'n chwarae'r brif rôl yn y ddrama ddirgelwch newydd, Un Bore Mercher, am berthynas rhwng gŵr a gwraig.  Wedi ei lleoli yn Sir Gaerfyrddin, mae'r stori'n adrodd hanes Faith (Eve Myles) cyfreithiwr, gwraig a mam, a'i brwydr i fynd at wraidd diflaniad sydyn ac annisgwyl ei gŵr.  Ymhlith y cast mae; Eve Myles, Matthew Gravelle (35 Diwrnod, Y Gwyll/Hinterland, Broadchurch), Mali Harries (Y Gwyll/Hinterland), Mark Lewis Jones (Byw Celwydd, Stella, National Treasure) ac Aneirin Hughes (Y Gwyll/Hinterland, Pobol y Cwm). Bydd isdeitlau Saesneg ar gael; bydd y gyfres hefyd ar gael ar wasanaeth ar-alw S4C.