Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Y ceiswyr lloches a'r ffoaduriaid sy'n dysgu Cymraeg yng Nghasnewydd

Y ceiswyr lloches a'r ffoaduriaid sy'n dysgu Cymraeg yng Nghasnewydd
Ceiswyr lloches a'r ffoaduriaid sy'n dysgu Cymraeg

Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghasnewydd yn dysgu Cymraeg, diolch i bartneriaeth rhwng y Groes Goch a Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei redeg gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r myfyrwyr, sydd oll yn ferched, yn dod o wahanol wledydd gan gynnwys China, Sudan ac Eritrea.  Maent yn dilyn cwrs dysgu Cymraeg am ddim i ddechreuwyr, dan arweiniad y tiwtor Jacqui Spiller, oedd yn arfer cael ei gynnal wyneb-yn-wyneb cyn y pandemig ond sydd bellach mewn dosbarth ar-lein.

Mae nifer o’r myfyrwyr eisoes yn siarad dwy neu fwy o ieithoedd. Mae’r mwyafrif hefyd yn famau sy’n awyddus i ddefnyddio eu Cymraeg gyda’u plant, sy’n dysgu Cymraeg yn yr ysgol.

Eglura Theresa Mgadzah Jones, Cydlynydd Cefnogi Ffoaduriaid a Mudo y Groes Goch,

“Pan fydd y Swyddfa Gartref yn lletya pobl yma, ychydig iawn o wybodaeth a roddir am Gymru fel gwlad wahanol. Mae pobl yn meddwl eu bod yn Lloegr ac nid ydynt yn ymwybodol bod diwylliant a iaith wahanol yma.

“Yna, pan maen nhw wedi bod yma am sbel, maen nhw'n dechrau sylwi ar yr arwyddion ffordd a’r arwyddion cyhoeddus yn Gymraeg, ac yn sylweddoli fod iaith arall yma. Maent hefyd yn clywed eu plant yn dod adref o'r ysgol yn dweud ymadroddion yn Gymraeg neu'n canu hwiangerddi yn Gymraeg.

“Felly fe wnaethon ni ddechrau'r gwersi gyda Dysgu Cymraeg Gwent oherwydd bod y rhieni'n chwilfrydig ac eisiau gwybod mwy am yr iaith.”

Roedd symud y gwersi ar-lein yn ystod y pandemig yn dipyn o sialens gan mai dim ond rhai o'r myfyrwyr oedd gyda gliniadur a Wi-Fi.  Fodd bynnag, llwyddodd y Groeso Goch i gael cyllid i brynu gliniadur i rai o’r menywod a sicrhau fod Wi-Fi yn nhai y Swyddfa Gartref a chariodd chwech myfyriwr ymlaen i ddysgu Cymraeg.

Ychwanegodd Theresa, “Mae’r menywod eisiau dysgu Cymraeg gan eu bod yn teimlo y dylen nhw ddysgu iaith y wlad maen nhw yn symud i fyw iddi. Maent eisiau gallu helpu eu plant gyda’u gwaith cartref, ond yn bwysicach na dim, maent yn sylweddoli gwerth bod yn amlieithog.  Maent yn gwybod, os byddan nhw neu eu plant yn siarad Cymraeg, yn ogystal â Saesneg, y bydd yn agor drysau iddynt pan fyddan nhw yn chwilio am swyddi.”

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg hefyd wedi creu cwrs ‘blasu’ 10 wythnos i'w ddefnyddio pan fydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cyrraedd Cymru gyntaf, sy'n gyflwyniad i'r diwylliant a rhai geiriau a brawddegau y gellir eu defnyddio o ddydd i ddydd.

Meddai Theresa, “Mae’n gwrs gwych ac yn rhywbeth y gellid ei ddefnyddio ochr yn ochr â'r cwrs ESOL (Saesneg). Mae'r lluniau, y delweddau, y bwyd a'r gwledydd a grybwyllir ar y cwrs yn adlewyrchu'r gwledydd mae'r menywod yn dod ohonynt a'r cymunedau amrywiol yng Nghymru.

“Mae'n braf i'r menywod rydyn ni'n eu cefnogi weld pethau sy'n gyfarwydd iddyn nhw ac wynebau nad ydyn nhw'n wyn. Yn sicr mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn i ni.”

Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae sicrhau fod cyfleoedd i bobl o bob cefndir ddysgu Cymraeg yn flaenoriaeth i’r Ganolfan Genedlaethol, ac rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda’r Groes Goch a darparwyr y cwrs, Dysgu Cymraeg Gwent, i gynnig gwersi Cymraeg i’r myfyrwyr yma.

“Mae gennym ystod o gyrsiau Cymraeg eraill ar gael, gan gynnwys cyrsiau ar gyfer rhieni, gwersi yn y gweithle, dosbarthiadau ar-lein a chyrsiau astudio annibynnol ar-lein. Bydd cyrsiau newydd ar gyfer dechreuwyr yn cychwyn ym mis Ionawr ac rydym yn edrych ymlaen i groesawu mwy o ddysgwyr i’n cymuned gefnogol a chyfeillgar.”

Daw Theresa yn wreiddiol o Zimbabwe ond symudodd i Lundain pan oedd yn 12 oed gan fod y rhyfel dros annibyniaeth yn torri allan. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, sy'n siaradwr Cymraeg a thri o blant.

Meddai, “Mae fy mhlant yn hil gymysg ac wedi mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. ‘Dw i wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg, ond fel menyw ddu, ‘dw i'n hunanymwybodol iawn pan fydda i'n mynd i ddosbarthiadau Cymraeg gan nad ydw i'n gweld llawer o bobl dduon yn dysgu Cymraeg.

“Rwyf wedi teimlo erioed ein bod dan anfantais. Nid dim ond y ffoaduriaid sy ddim yn ymwybodol o'r iaith ond hefyd y gymuned BAME yn ehangach, sy wedi bod yma ers amser maith.

“Mae’n ymddangos eu bod dan yr argraff ‘mai iaith i bobl wyn’ yw’r Gymraeg, sy’n sicr ddim yn wir. Mae hyn yn rhywbeth sy angen newid ac yn rheswm arall pam ein bod ni'n cyflwyno'r iaith i'r menywod rydyn ni'n eu cefnogi yma yng Nghasnewydd. ”

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch swyddfa@dysgucymraeg.cymru

 

Nodyn i’r Golygydd

Bydd ystod o gyrsiau dysgu Cymraeg newydd yn cychwyn yn mis Ionawr – am fwy o wybodaeth ac i archebu lle - https://dysgucymraeg.cymru