Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyfrannu’n effeithiol at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cyfrannu’n effeithiol at y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg

Mae adroddiad Estyn ar y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn canmol arweiniad cadarn a phendant y sefydliad, sy’n cadw budd dysgwyr yn ganolog i’w holl weithgarwch.

Yn ôl yr adroddiad, mae gan y Ganolfan “weledigaeth glir i weddnewid tirlun ieithyddol Cymru drwy gefnogi dysgwyr i ddod yn ddefnyddwyr y Gymraeg,” gan gyfrannu’n effeithiol at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Estyn yn nodi:

  • Ers ei sefydlu, mae’r Ganolfan wedi datblygu i fod yn llais cenedlaethol, dylanwadol i’r sector Dysgu Cymraeg.
  • Mae’r Ganolfan wedi llwyddo i gysoni darpariaeth Dysgu Cymraeg ar draws Cymru, gan greu platfform digidol hwylus a hygyrch sydd wedi galluogi’r sector i ymateb yn llwyddiannus i’r pandemig.
  • Mae Cymraeg Gwaith, y cynllun i gryfhau sgiliau dwyieithog mewn gweithleoedd, yn darparu arlwy eang a chynhwysfawr ac yn arloesi’n ddigidol.
  • Medda’r Ganolfan ar berthynas gref gyda sawl partneriaeth ddylanwadol, sy’n cyfrannu at sicrhau gwelliannau parhaus i ansawdd y ddarpariaeth i ddysgwyr.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ymateb “chwim ac effeithiol” y sector Dysgu Cymraeg ar gychwyn y pandemig, gyda’r platfform digidol yn galluogi’r sector i ymateb yn llwyddiannus trwy symud y ddarpariaeth ar-lein a chynnig cyrsiau cyfunol ac adnoddau dysgu digidol helaeth.

Mae’r Ganolfan yn gweithio gydag 11 o ddarparwyr cyrsiau ac mae Estyn yn eu harolygu hefyd.  Mae arolygiadau yn dangos bod safonau ac agweddau dysgwyr yn gyson gryf ar draws y sector a bod staff yn cyflawni eu swyddogaethau gydag angerdd ac argyhoeddiad.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:  “Mae’r Ganolfan yn croesawu adroddiad Estyn sy’n dangos ein bod yn gwneud ‘gwahaniaeth go iawn’ i ddysgwyr a’r Gymraeg.  Mae’r adroddiad yn cydnabod y camau breision a gymerwyd i gysoni’r ddarpariaeth ar draws Cymru, a’r ffordd ragweithiol yr ydym yn cydweithio gyda’n partneriaid a’n darparwyr cyrsiau. 

“Rydym yn teimlo’n hynod o falch o’r adroddiad hwn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o sicrhau’r cynnydd ar draws y sector.  Wrth i ni gynllunio ar gyfer y cyfnod nesaf, ymfalchïwn yn y sector Dysgu Cymraeg deinamig hwn, gyda safonau uchel, sy’n rhoi dysgwyr yn y canol.”

Meddai Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: “Mae’r adroddiad yn destun balchder i bawb sy’n gweithio yn y sector Dysgu Cymraeg. 

“Dwi’n croesawu’r ffaith fod yr adroddiad yn cydnabod y rôl hanfodol sydd gan y Ganolfan i chwarae wrth gyrraedd amcanion Cymraeg 2050, a hoffwn gydnabod y ffordd gadarnhaol y gwnaeth y Ganolfan ymateb i’r pandemig, gan gynnal ac ymestyn ei gwasanaeth gwerthfawr i ddysgwyr yn ystod y cyfnod yma. Hoffwn longyfarch tîm y Ganolfan yn enwedig am yr holl waith a wnaed ganddynt yn cysoni ac yn codi safonau, gan anelu at ragoriaeth. 

"Mae Estyn yn awgrymu y gall y Ganolfan fynd ati nawr i rannu arferion da gyda sectorau eraill ac edrychaf ymlaen at hwyluso'r gwaith yma."