Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ydych chi’n siarad iaith babi?

Ydych chi’n siarad iaith babi?

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin yn galw ar bobl o bob oed i rannu’r geiriau arbennig maen nhw’n eu defnyddio wrth ‘siarad babi’ er mwyn gallu creu casgliad o ymadroddion a geiriau ‘babi’ Cymraeg, a hynny am y tro cyntaf erioed.

‘Parentese’ ydy’r term swyddogol am siarad babi. Mae elfennau o ‘parentese’ yn cynnwys arafu tempo, defnyddio goslef llais uwch, cynnwys seibiau i annog ymateb yn ogystal â defnyddio geirfa bwrpasol ac ystumiau na fyddwn fel arfer yn defnyddio gyda phlant hŷn nac oedolion, megis ‘bow-wow’, ‘beibeis’ neu ‘ych-a-pych’.

Mae’r geiriau hyn yn gallu amrywio o ardal i ardal ac o deulu i deulu, ond y gobaith yw y bydd modd creu adnoddau i ddatblygu sgiliau a hyder rhieni a gofalwyr  sy’n dysgu Cymraeg, ac arweinwyr grwpiau megis Cymraeg i Blant, Clwb Cwtsh a chylchoedd Ti a Fi, wrth siarad babi yn Gymraeg. Mae’r fenter yn rhan o brosiect ‘Cymraeg yn y Cartref’ y Ganolfan Genedlaethol, sy’n darparu cyrsiau ac adnoddau wedi’u teilwra ar gyfer rhieni a gofalwyr.

Dona Lewis yw Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, gyda chyfrifoldeb dros y cynllun yma.

Dywedodd, “Mae’r prosiect yma – y cyntaf o’i fath yn y Gymraeg - yn gyfle gwych i gasglu ynghyd yr holl eiriau babi Cymraeg sy’n cael eu defnyddio gan deuluoedd ledled Cymru a thu hwnt.  Byddwn yn rhannu’r eirfa arbennig honno gyda dysgwyr sy’n rhieni neu’n ofalwyr yn ogystal â gweithwyr yn y sector Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar Cymraeg.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin, “Mae’r iaith mae rhieni newydd yn siarad gyda babi yn aml yn seiliedig ar reddf neu’r hyn sy’n teimlo’n iawn. Mae’n bwysig rhoi hyder i rieni sydd eisiau siarad Cymraeg gyda’u babis ac sy’n gweld babi newydd fel cyfle i ddechrau siarad Cymraeg.

“Rydym felly eisiau casglu cynifer o eiriau ac ymadroddion ag y gallwn, fel bod gennym ddigon o ddeunydd i weithio gydag ef i greu’r adnoddau.

“Hoffem bwysleisio nad oes ffasiwn beth â gair sy’n rhy wirion i’w gynnig – mi ydan ni eisiau eu clywed i gyd!  O’r geiriau fyddech chi yn defnyddio amser bwyd ac amser bath i eirfa amser chwarae ac amser gwely.”

Mae gan Adran Gwyddorau Addysg Prifysgol Bangor ddiddordeb mawr yn y cynllun, ac mae’r Athro Enlli Thomas, sy’n arbenigwr ar gaffael iaith plant bach, wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ers y dechrau.

Meddai’r Athro Enlli Thomas, “Mae hwn yn gynllun diddorol iawn sy’n torri tir newydd yma yng Nghymru – dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw un geisio cael rhestr o’r fath at ei gilydd.

“Bydd yn ddiddorol gweld yr amrywiadau iaith o deulu i deulu ac o ardal i ardal, a’r effaith bosibl ar drosglwyddo iaith o fewn teuluoedd.”

Mae mwy o fanylion am sut y gallwch gyfrannu geiriau ar gyfryngau cymdeithasol a gwefan Mudiad Meithrin: www.meithrin.cymru/siaradbabi