Prosiect ymchwil TGAU Cymraeg Ail Iaith
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn awyddus i holi pobl ifanc sy newydd orffen TGAU Cymraeg Ail Iaith fel rhan o brosiect ymchwil ‘Adnabod y Seiliau’.
Nod y prosiect yw dod i wybod mwy am y sgiliau Cymraeg y mae pobl ifanc yn eu hennill yn yr ysgol a sut mae’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith yn cydblethu gyda lefelau Dysgu Cymraeg y Ganolfan.
Bydd ymchwilwyr y Ganolfan yn cynnal cyfweliadau cwbl anffurfiol, cyfeillgar gyda’r bobl ifanc dros Teams. Mae croeso i bawb, yn siaradwyr hyderus neu beidio, a bydd y cyfweliadau yn para hyd at 15 munud.
I gymryd rhan, plîs e-bostiwch elen.robert@dysgucymraeg.cymru