Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ymchwil TGAU

Ymchwil TGAU

Prosiect ymchwil TGAU Cymraeg Ail Iaith

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn awyddus i holi pobl ifanc sy newydd orffen TGAU Cymraeg Ail Iaith fel rhan o brosiect ymchwil ‘Adnabod y Seiliau’.

Nod y prosiect yw dod i wybod mwy am y sgiliau Cymraeg y mae pobl ifanc yn eu hennill yn yr ysgol a sut mae’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith yn cydblethu gyda lefelau Dysgu Cymraeg y Ganolfan.

Bydd ymchwilwyr y Ganolfan yn cynnal cyfweliadau cwbl anffurfiol, cyfeillgar gyda’r bobl ifanc dros Teams.  Mae croeso i bawb, yn siaradwyr hyderus neu beidio, a bydd y cyfweliadau yn para hyd at 15 munud.

I gymryd rhan, plîs e-bostiwch elen.robert@dysgucymraeg.cymru