Beth bynnag dy reswm dros ddysgu...
Ymgyrch recriwtio i ddenu mwy o ddysgwyr
Mae ymgyrch recriwtio newydd ar y gweill i ddenu mwy o bobl i ddysgu’r Gymraeg. Mae hysbyseb deledu 30-eiliad o hyd yn cael ei darlledu ar ITV Wales, Sky ac S4C; mae presenoldeb gan y Ganolfan Genedlaethol a'i darparwyr mewn digwyddiadau a gwyliau cymunedol ac mae hysbysebion ar gefn bysiau ledled Cymru. Thema’r ymgyrch yw ‘rhesymau dros ddysgu’ ac mae wedi’i datblygu yn sgil ymchwil a gomisiynwyd gan y Ganolfan Genedlaethol oedd yn edrych ar yr hyn sy’n ysbrydoli pobl i ddysgu’r Gymraeg. Cei ddod o hyd i gwrs yma.
03 Awst 17