Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Beth bynnag dy reswm dros ddysgu...

Beth bynnag dy reswm dros ddysgu...

Ymgyrch recriwtio i ddenu mwy o ddysgwyr


Mae ymgyrch recriwtio newydd ar y gweill i ddenu mwy o bobl i ddysgu’r Gymraeg.  Mae hysbyseb deledu 30-eiliad o hyd yn cael ei darlledu ar ITV Wales, Sky ac S4C; mae presenoldeb gan y Ganolfan Genedlaethol a'i darparwyr mewn digwyddiadau a gwyliau cymunedol ac mae hysbysebion ar gefn bysiau ledled Cymru.  Thema’r ymgyrch yw ‘rhesymau dros ddysgu’ ac mae wedi’i datblygu yn sgil ymchwil a gomisiynwyd gan y Ganolfan Genedlaethol oedd yn edrych ar yr hyn sy’n ysbrydoli pobl i ddysgu’r Gymraeg.  Cei ddod o hyd i gwrs yma.