Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ymlacio a choginio gyda Ceri Lloyd

Ymlacio a choginio gyda Ceri Lloyd

Bydd Ceri Lloyd, yr actores, yr awdures, a’r athrawes yoga sydd wedi ymddiddori mewn bwyta’n iach a bwydydd figan, yn cynnal sesiwn i ddysgwyr fel rhan o Galendr Adfent y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fis yma. Mae Ceri wedi ysgrifennu llyfr ‘O’r Pridd i’r Plât’, sef y llyfr coginio figan cyntaf yn y Gymraeg a gyhoeddwyd gan Y Lolfa.

Fel rhan o ddathliadau’r Nadolig bydd Ceri yn coginio tartenni Nadoligaidd figan ar Facebook Dysgu Cymraeg/Learn Welsh a bydd geirfa ar y sgrîn i’ch helpu i ddeall y Gymraeg. Cofiwch wylio ar 18 Rhagfyr. Mwynhewch!

Mae Ceri’n rhedeg stiwdio yoga o’r enw Saib ac mae hi hefyd wedi paratoi gwers yoga arbennig i Dysgu Cymraeg. Gweler isod. Os hoffech chi ymlacio dros gyfnod y Nadolig, beth am wneud y wers yma?