Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Yr ysgol ger y ffin ble mae’r Gymraeg yn ffynnu

Yr ysgol ger y ffin ble mae’r Gymraeg yn ffynnu

Yr ysgol ger y ffin ble mae’r Gymraeg yn ffynnu

Wedi ei lleoli dafliad carreg o’r ffin, mae’r Gymraeg yn ffynnu mewn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ger Casnewydd, ar ôl i’r athrawon ddechrau dysgu’r iaith yn ystod y cyfnod clo.

Penderfynodd criw o athrawon Ysgol Gynradd Langstone fynd ati i ddysgu Cymraeg ar ddechrau’r cyfnod clo, ac maent bellach yn mwynhau dysgu a siarad yr iaith, a’i haddysgu i’r plant yn yr ysgol.

Eglura Jude Russell, Dirprwy Bennaeth yr ysgol, “Pan ddaeth y cyfnod clo, roedd pennaeth yr ysgol yn awyddus i sicrhau ein bod yn defnyddio ein hamser ar gyfer datblygiad proffesiynol. Gofynnodd i’r holl staff wneud modiwl blasu Dysgu Cymraeg ar-lein i athrawon, sydd ar gael am ddim ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.”

Yn dilyn y modiwl blasu ar-lein, aeth pedwar o’r athrawon, gan gynnwys Jude, ymlaen i wneud cwrs min nos gyda Dysgu Cymraeg Gwent, sy’n cael ei drefnu gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ychwanegodd Jude, “Mae criw ohonom wedi parhau i ddysgu Cymraeg, ac yn mwynhau yn fawr. Ond y person sydd wedi bod yn gyrru’r Gymraeg yn yr ysgol ac sydd wedi gwneud gwaith anhygoel ydy Paula Watts sy’n athrawes Blwyddyn 3 a 4.”

Bu Paula Watts ar gynllun sabothol ‘Cymraeg mewn Blwyddyn’ gyda Phrifysgol Caerdydd ac mae’n teimlo’n angerddol dros yr iaith.

Meddai Paula, “Dw i wrth fy modd yn siarad Cymraeg a dw i’n manteisio ar bob cyfle posibl i gyflwyno’r iaith i’r plant.  Mae gennym ni nifer o gemau newydd yn Gymraeg er mwyn helpu’r plant i adeiladu brawddegau, cyflwyno geirfa newydd a chynnal sgwrs syml. 

“Dw i hefyd yn rhannu gorchmynion Cymraeg y gall y staff ddefnyddio yn y dosbarth wrth ddysgu, ac yn cynnig syniadau pan maent yn cynllunio eu gwersi Cymraeg.

“Mae gennym sesiwn ‘paned a sgwrs’ bob bore Mawrth am 8:15am sy’n rhoi cyfle i staff siarad Cymraeg gyda’i gilydd dros baned.

“Mae ‘Welsh Wednesday’ yn un o’n hoff ddyddiau ni a’r plant – rydym yn cael llawer o hwyl ac yn cychwyn y dydd gyda gemau a chaneuon Cymraeg.”

Cafodd yr ysgol arolwg Estyn yn ddiweddar ac roedd yr arolygwyr hefyd yn canmol y cyfleoedd cyson a pherthnasol i’r plant ddefnyddio’r Gymraeg.

Ychwanegodd Jude, “Mae hefyd yn braf pan fo arolygwyr Estyn yn gwerthfawrogi’r gwaith sy’n cael ei wneud ac yn ein canmol am annog yr iaith - mewn cornel o Gymru ble nad yw’r Gymraeg i’w chlywed yn aml.”

Mae modd i’r gweithlu addysg ddilyn cyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim.  Am fwy o wybodaeth, ewch i dysgucymraeg.cymru

DIWEDD