Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ysgoloriaeth i ddysgwyr o'r Wladfa

Ysgoloriaeth i ddysgwyr o'r Wladfa

Mae tair ysgoloriaeth, gwerth £2,000 yr un, ar gael i ddysgwyr o Batagonia astudio’r Gymraeg yng Nghymru dros haf 2019.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n ariannu’r ysgoloriaethau, a fydd yn galluogi tri pherson o’r Wladfa i dreulio mis yn dilyn cwrs gyda Phrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Aberystwyth, dau o ddarparwyr y Ganolfan Genedlaethol.

Mae gofyn i’r dysgwyr sy’n gwneud cais am ysgoloriaeth fod ar lefel Canolradd o leiaf a’u bod wedi gwneud ymrwymiad pendant eisoes i ddysgu’r iaith.  Gweinyddir yr ysgoloriaethau gan y Cyngor Prydeinig. Mae’r ffurflen gais ar gael o wefan y Cyngor Prydeinig https://wales.britishcouncil.org/rhaglenni/addysg/prosiect-yr-iaith-gymraeg Bydd yn rhaid ei llenwi a’i dychwelyd at iepwales@britishcouncil.org erbyn 26 Hydref 2018.

Yn dilyn cyfnod yng Nghymru yn gwella’u sgiliau iaith, bydd disgwyl i’r dysgwyr fynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl dychwelyd adref, gan gyfrannu at fywyd Cymraeg y Wladfa, yn weithgareddau neu ddosbarthiadau.

Un a wnaeth elwa yn fawr o’r ysgoloriaeth hon yn 2018 oedd Magalí Yangüela Cuniolo o Drelew, yn nhalaith Chubut:

“Dwi’n ddiolchgar iawn am yr ysgoloriaeth. Ces i amser bendigedig. Roedd y profiad yn fythgofiadwy. Roedd y cwrs yn werthfawr iawn, fe wnes i ddysgu llawer, ac mae fy Nghymraeg wedi gwella yn fawr.

“Cyn i mi fynd i Gymru, ro’n i’n teimlo nad oeddwn i yn rhugl eto, ond nawr, ar ôl y cwrs, dw i’n teimlo’n fwy hyderus. Gwnes i gwrdd â llawer o bobl ddiddorol a gwnes i fwynhau’n fawr!

“Yn fy marn i, mae’r cwrs wedi ei drefnu yn dda iawn er mwyn dysgu’n gyflym. Diolch yn fawr iawn.”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Ry’n ni’n gyffrous iawn i gynnig y tair ysgoloriaeth yma i bobl o’r Wladfa sy’n awyddus i ddod i Gymru i ddysgu ac i wella’u Cymraeg.  Ry’n ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Ariannin, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hawys Roberts, Prif Swyddog Cyfathrebu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar 01267 240574 neu hawys.roberts@dysgucymraeg.cymru