Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ysgoloriaethau i ddysgwyr o Batagonia yn 2020

Ysgoloriaethau i ddysgwyr o Batagonia yn 2020

Mae tair ysgoloriaeth, gwerth £2,000 yr un, ar gael i ddysgwyr o Batagonia astudio’r Gymraeg yng Nghymru dros haf 2020.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n ariannu’r ysgoloriaethau, a fydd yn galluogi tri pherson o’r Wladfa i dreulio mis yn dilyn cwrs gyda Phrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Aberystwyth, dau o ddarparwyr cwrs y Ganolfan Genedlaethol.

Mae gofyn i’r dysgwyr sy’n gwneud cais am ysgoloriaeth fod ar lefel Canolradd o leiaf a’u bod wedi gwneud ymrwymiad pendant eisoes i ddysgu’r iaith.  Gweinyddir yr ysgoloriaethau gan y Cyngor Prydeinig, ac mae’r ffurflen gais ar gael yma. Bydd yn rhaid ei llenwi a’i dychwelyd at eiry.miles@dysgucymraeg.cymru erbyn 4 Tachwedd 2019.  

Yn dilyn cyfnod yng Nghymru yn gwella’u sgiliau iaith, bydd disgwyl i’r dysgwyr fynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl dychwelyd adref, gan gyfrannu at fywyd Cymraeg y Wladfa, boed hynny mewn gweithgareddau neu ddosbarthiadau.

Un a wnaeth elwa yn fawr o’r ysgoloriaeth hon yn 2019 oedd Sibyl Hughes o’r Gaiman. Mae Sibyl yn gweithio yn yr Ysgol Feithrin Gymraeg yno.

 

 

Ces i ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, Roedd y profiad yn arbennig. Bob dydd ar ôl amser astudio roedd gweithgareddau gwahanol i´w gwneud. Roedd y tiwtoriaid yn garedig ac yn broffesiynol, a ches i gyfle i gwrdd â phobl o wahanol wledydd a oedd yn dysgu Cymraeg hefyd. Y peth y gwnes i ei fwynhau fwyaf am Gymru oedd cael cyfle i fyw mewn awyrgylch Gymraeg, a chael siarad Cymraeg gyda phobl leol ac mewn llefydd cyhoeddus. Roedd pawb mor groesawgar.

Sibyl Hughes

Ry’n ni’n gyffrous iawn i gynnig y tair ysgoloriaeth yma i bobl o’r Wladfa sy’n awyddus i ddod i Gymru i ddysgu ac i wella’u Cymraeg.  Ry’n ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Ariannin, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia.

Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
Sibyl Hughes

Sibyl Hughes a Judith Ellis ar gwrs haf Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.