Ysgoloriaethau i ddysgwyr o’r Wladfa

Disgrifiad llun: Grisel Roberts o Batagonia

 

Mae tair ysgoloriaeth, gwerth £2,000 yr un, ar gael i ddysgwyr o Batagonia astudio’r Gymraeg yng Nghymru dros yr haf.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n ariannu’r ysgoloriaethau, fydd yn galluogi tri pherson o’r Wladfa i dreulio mis yn dilyn cwrs gyda Phrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Aberystwyth, dau o ddarparwyr y Ganolfan.

Mae gofyn i’r dysgwyr sy’n gwneud cais am ysgoloriaeth fod ar lefel Canolradd o leiaf a’u bod wedi gwneud ymrwymiad pendant eisoes i ddysgu’r iaith. Gweinyddir yr ysgoloriaethau gan y Cyngor Prydeinig.

Yn dilyn cyfnod yng Nghymru yn gwella’u sgiliau iaith, bydd disgwyl i’r dysgwyr fynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg ar ôl dychwelyd adref, gan gyfrannu at fywyd Cymraeg y Wladfa, yn weithgareddau neu ddosbarthiadau.

Un sydd wedi elwa yn y gorffennol o ysgoloriaeth fel hon yw Grisel Roberts o Esquel, yn ardal yr Andes. Mynychodd Grisel, sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru, gwrs dwys am fis gyda Phrifysgol Caerdydd yn ystod haf 2016.

Meddai Grisel:

“Dw i wedi elwa o'r Cynllun yn aruthrol, a dw i'n ddiolchgar dros ben. Roedd y cwrs yn wych, roedd yr athrawon yn amyneddgar ac yn angerddol am yr iaith. Yn y grŵp, cwrddais â llawer o bobl gyfeillgar iawn ac ro'n ni'n defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu trwy'r amser.”

Wrth annog eraill i ymgeisio am yr ysgoloriaeth, ychwanegodd:

“Mae'r ysgoloriaeth wedi fy helpu i fod yn athrawes well ac roedd yn caniatáu i mi deithio a dod i wybod mwy am y diwylliant Cymreig, hyrwyddo diwylliant Patagonia yng Nghymru, a chryfhau’r rhwymau rhwng Cymru a'r Ariannin. Dw i’n dal i astudio yn galed achos dw i'n edrych ymlaen at sefyll arholiad lefel Uwch eleni!”

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Ry’n ni’n gyffrous iawn i gynnig y tair ysgoloriaeth yma i bobl o’r Wladfa sy’n awyddus i ddod i Gymru i ddysgu ac i wella’u Cymraeg. Ry’n ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a’r Ariannin, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau ym Mhatagonia.”

Diwedd

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hawys Roberts