Ysgoloriaethau Patagonia
Ysgoloriaethau i ddysgwyr o Batagonia
Mae dynes o Batagonia, sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru, yn un o dri pherson sydd wedi derbyn ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth dros yr haf.
Fe deithiodd hen hen daid Noelia Sánchez Jenkins, Aaron Jenkins, ar y Mimosa, o Lerpwl i Batagonia ym 1865. Mae Noelia, yn ogystal ag Alcira Williams a Mariel Jones, wedi derbyn ysgoloriaethau sy’n werth £2,000 yr un, sydd wedi’u hariannu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Bydd yr ysgoloriaethau yn galluogi’r tair i dreulio mis yn dilyn cwrs gyda darparwr y Ganolfan Genedlaethol, ‘Dysgu Cymraeg Ceredigion - Powys - Sir Gâr’.
Meddai Noelia: “Dechreuais i ddysgu Cymraeg pan ro’n i’n 14 oed. Dw i’n falch iawn o’r cyfle i gael gwella fy Nghymraeg, ac i helpu dysgu’r iaith i’r genhedlaeth nesaf yn Ysgol Gymraeg yr Andes.”
Daw Alcira Williams o Drelew, Patagonia. Mae’n athrawes yn Ysgol yr Hendre, ysgol Gymraeg a Sbaeneg yn y Wladfa, ac mae’n awyddus iawn i wella ei Chymraeg er mwyn ei rhannu gyda disgyblion yr ysgol. Mae hi wedi bod yng Nghymru o’r blaen yn dysgu Cymraeg, ac enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod y Wladfa yn 2015.
Meddai Alcira: “Mae’n braf iawn cael bod nôl yng Nghymru a dw i’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth i wella fy Nghymraeg.”
Mae Mariel Jones hefyd yn gweithio yn Ysgol yr Hendre, ers 10 mlynedd fel athrawes Sbaeneg i’r plant lleiaf. Meddai: “Hoffwn wella fy Nghymraeg i allu dysgu Cymraeg i’r plant. Dw i hefyd eisiau gallu cyfrannu at yr Eisteddfod a siarad ag ymwelwyr i’r ysgol a’r gymuned.”
Roedd gofyn i’r dysgwyr a oedd yn gwneud cais am ysgoloriaeth i fod ar lefel dysgu Canolradd o leiaf a’u bod wedi gwneud ymrwymiad pendant eisoes i ddysgu’r iaith. Gweinyddir yr ysgoloriaethau gan y Cyngor Prydeinig.
Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Rydyn ni’n falch o gynnig y tair ysgoloriaeth yma i Mariel, Alcira, a Noelia i dreulio mis gyda ni yn dysgu’r Gymraeg. Ry’n ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a Phatagonia, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau yn y Wladfa. Rydyn ni’n dymuno’n dda i’r tair wrth iddyn nhw ddechrau ar eu cyfnod yn Aberystwyth.”
Diwedd
27.7.17
Nodiadau:
- Prifysgol Aberystwyth sy’n darparu cyrsiau Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr, o dan yr enw ‘Dysgu Cymraeg Ceredigion – Powys – Sir Gâr’.
- Cynhelir y Cwrs Dwys Haf ym Mhrifysgol Aberystwyth dros bedair wythnos, o 31 Gorffennaf i 25 Awst 2017.