Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ysgoloriaethau Patagonia

Ysgoloriaethau Patagonia
Paned yn yr Ysgol Haf
Ysgol Haf Aberystwyth

Ysgoloriaethau i ddysgwyr o Batagonia

Mae dynes o Batagonia, sydd â’i gwreiddiau yng Nghymru, yn un o dri pherson sydd wedi derbyn ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg yn Aberystwyth dros yr haf.

Fe deithiodd hen hen daid Noelia Sánchez Jenkins, Aaron Jenkins, ar y Mimosa, o Lerpwl i Batagonia ym 1865.  Mae Noelia, yn ogystal ag Alcira Williams a Mariel Jones, wedi derbyn ysgoloriaethau sy’n werth £2,000 yr un, sydd wedi’u hariannu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd yr ysgoloriaethau yn galluogi’r tair i dreulio mis yn dilyn cwrs gyda darparwr y Ganolfan Genedlaethol, ‘Dysgu Cymraeg Ceredigion - Powys - Sir Gâr’.

Meddai Noelia: “Dechreuais i ddysgu Cymraeg pan ro’n i’n 14 oed.  Dw i’n falch iawn o’r cyfle i gael gwella fy Nghymraeg, ac i helpu dysgu’r iaith i’r genhedlaeth nesaf yn Ysgol Gymraeg yr Andes.”

Daw Alcira Williams o Drelew, Patagonia.  Mae’n athrawes yn Ysgol yr Hendre, ysgol Gymraeg a Sbaeneg yn y Wladfa, ac mae’n awyddus iawn i wella ei Chymraeg er mwyn ei rhannu gyda disgyblion yr ysgol.  Mae hi wedi bod yng Nghymru o’r blaen yn dysgu Cymraeg, ac enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod y Wladfa yn 2015.

Meddai Alcira: “Mae’n braf iawn cael bod nôl yng Nghymru a dw i’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth i wella fy Nghymraeg.”

Mae Mariel Jones hefyd yn gweithio yn Ysgol yr Hendre, ers 10 mlynedd fel athrawes Sbaeneg i’r plant lleiaf.  Meddai: “Hoffwn wella fy Nghymraeg i allu dysgu Cymraeg i’r plant.  Dw i hefyd eisiau gallu cyfrannu at yr Eisteddfod a siarad ag ymwelwyr i’r ysgol a’r gymuned.”

Roedd gofyn i’r dysgwyr a oedd yn gwneud cais am ysgoloriaeth i fod ar lefel dysgu Canolradd o leiaf a’u bod wedi gwneud ymrwymiad pendant eisoes i ddysgu’r iaith. Gweinyddir yr ysgoloriaethau gan y Cyngor Prydeinig.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Rydyn ni’n falch o gynnig y tair ysgoloriaeth yma i Mariel, Alcira, a Noelia i dreulio mis gyda ni yn dysgu’r Gymraeg.  Ry’n ni’n ymfalchïo yn y berthynas unigryw sydd rhwng Cymru a Phatagonia, ac yn falch iawn o fedru cynnig cymorth i sicrhau bod y Gymraeg yn parhau yn rhan o fywyd cymunedau yn y Wladfa.  Rydyn ni’n dymuno’n dda i’r tair wrth iddyn nhw ddechrau ar eu cyfnod yn Aberystwyth.”

Diwedd

27.7.17

Nodiadau:

  • Prifysgol Aberystwyth sy’n darparu cyrsiau Cymraeg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gâr, o dan yr enw ‘Dysgu Cymraeg Ceredigion – Powys – Sir Gâr’.
  • Cynhelir y Cwrs Dwys Haf ym Mhrifysgol Aberystwyth dros bedair wythnos, o 31 Gorffennaf i 25 Awst 2017.