Manylion y Cwrs
Cwrs i Bwy: Athrawon cynradd ac uwchradd ysgolion cyfrwng Cymraeg / dwyieithog
Lefel: Cwrs lefel Uwch
Hyd: 20 diwrnod (2 ddiwrnod yr wythnos dros 10 wythnos). Ceir hyblygrwydd i’r ysgol benderfynu ar ba 2 ddiwrnod i ryddhau’r athrawon.
Dull Dysgu: Caiff yr unedau eu cyflwyno drwy ddull hunan-astudio ar-lein. Bydd sesiwn adolygu fyw wythnosol yn cael ei chynnal ogystal â syrjeri iaith. Gall yr athrawon dderbyn cefnogaeth gan diwtor dros e-bost drwy gydol y cwrs.
Lleoliad: Ar-lein
Bwriad y cwrs:
- Dysgu’r iaith a dysgu sut i addysgu’r Gymraeg yn drawsgwricwlaidd yn effeithiol yn yr ysgol.
- Dysgu am fethodolegau dysgu iaith er mwyn arfogi’r athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i godi safonau nôl yn yr ysgol.
- Gall yr athrawon wneud cais i barhau i’r cwrs lefel Canolradd ar ôl cwblhau’r cwrs lefel Sylfaen.
Er mwyn mynegi diddordeb mynychu'r cwrs yma, cwblhewch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.