Manylion y Cwrs
Cwrs i Bwy: Cynorthwywyr dosbarth cynradd y sector cyfrwng Cymraeg / dwyieithog sy’n siaradwyr Cymraeg rhugl.
Lefel: Cwrs lefel Uwch
Hyd: 20 diwrnod (2 ddiwrnod yr wythnos dros 10 wythnos).
Dull Dysgu: Darpariaeth wyneb yn wyneb ar y campws.
Lleoliad: Ar y campws (bydd lleoliad yn y Gogledd, Canolbarth a De Cymru)
Bwriad y cwrs:
- Ymestyn sgiliau iaith y cynorthwywyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn cyd-destun proffesiynol.
- Galluogi’r cynorthwywyr i gefnogi’r athrawon a’r dysgwyr yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg.
Er mwyn mynegi diddordeb mynychu'r cwrs yma, cwblhewch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.