Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Dysgu Cymraeg Dwys 2025-26

(Cynllun Sabothol)

Cyrsiau Dysgu Cymraeg Dwys (Cynllun Sabothol) 2025-26

Dyma gyfleoedd i Ddysgu Cymraeg trwy ddysgu dwys yn llawn amser dros gyfnod penodol.

Gallwch ddarllen mwy yma am y mathau o gyrsiau fydd ar gael yn 2025-26, ac mae manylion gwneud cais isod. Noder mai dyddiad cau ceisiadau cyrsiau Medi 2025 ydy 20 Chwefror 2025.

Darperir y cyrsiau gan dri darparwr, sy'n gwasanaethu tair ardal ddaearyddol:

  • Gogledd Cymru  (Sir Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam)
  • Canolbarth a De Orllewin Cymru (Sir Powys, Sir Ceredigion, Sir Gâr, Sir Benfro, Dinas a Sir Abertawe, a Chastell-nedd Port Talbot)
  • De Cymru (Pen y bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd, Mynwy)

 

Tymor yr Hydref a'r Gwanwyn (Tymor 1 a 2)

Mae'r Cwrs Dau Dymor ar gael ar draws Cymru.

Cwrs Dwys Dau Dymor

Mae'r Cwrs Dwys Dau Dymor yn gyfle i Ymarferwyr Addysg ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn ystod Tymor yr Hydref a Thymor y Gwanwyn (Tymor 1 a 2).

Cwrs i Bwy: Athrawon ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg sydd â rhywfaint o sgiliau sylfaenol yn y Gymraeg (Athrawon y Cyfnod Sylfaen a/neu CA2).

Lefel: Sylfaen a Chanolradd

          Tymor 1 (Tymor yr Hydref) – Lefel Sylfaen
          Tymor 2 (Tymor y Gwanwyn) – Lefel Canolradd

Hyd: 2 dymor ysgol, llawn amser

Dull Dysgu: Dapariaeth gyfunol mewn grŵp, dan arweiniad tiwtor - dysgu wyneb yn wyneb a dysgu yn rhithiol

Lleoliad: 3 diwrnod rhithiol a 2 ddiwrnod mewn ‘Hwb’ lleol

Bwriad y cwrs:

  • Dysgu’r iaith a dysgu sut i addysgu’r Gymraeg yn drawsgwricwlaidd yn effeithiol yn yr ysgol.
  • Dysgu am fethodolegau dysgu iaith er mwyn arfogi’r athrawon â’r sgiliau angenrheidiol i godi safonau yn yr ysgol.
  • Ar ôl cwblhau'r ddau dymor, mae'n bosib y bydd modd i chi dderbyn cwrs dilyniant yn ystod Tymor yr Haf ar Lefel Uwch, ond ni fydd cyllid ar gyfer costau cyflenwi ar gyfer Tymor 3.

Cyrsiau Eraill - Tymor yr Haf 2025 (Tymor 3)

Yn ystod Tymor 3, bydd yr arlwy o gyrsiau yn amrywio yn ôl ardal. Caiff manylion cyrsiau Tymor yr Haf 2026 eu rhyddhau maes o law, a bydd y wybodaeth ar gael ar y dudalen hon. Bydd y broses ymgeisio hefyd yn agor ar y dudalen hon maes o law.

Gwneud Cais am Gwrs Dwys (Cynllun Sabothol)

Sut mae gwneud cais?

Mae ceisiadau ar gyfer Cyrsiau Dysgu Cymraeg Dwys (Cynllun Sabothol) 2025-26 yn cael eu gwneud ar-lein trwy'r wefan hon. Mae tri cham i'r broses o wneud cais:

1) Ffurflen Gais i'w llenwi gan yr Ymarferydd (athro/cynorthwy-ydd)

2) Ffurflen Gefnogi i'w llenwi gan Arweinydd Ysgol

3) Ffurflen Gefnogi i'w llenwi gan yr Awdurdod Lleol

Pan fydd y 3 ffurflen ar-lein wedi'u cyflwyno, caiff y cais ei asesu.

Dylech sicrhau bod 3 rhan y cais wedi'u cwblhau cyn y dyddiad cau (20 Chwefror 2025 ar gyfer cyrsiau Medi 2025).

 

Cliciwch yma i ddechrau ar eich cais. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae pob croeso i chi gysylltu trwy ebostio cymorth@dysgucymraeg.cymru