Nod Academi yw darparu cyfleoedd i holl staff dysgu Cymraeg (Tiwtoriaid, staff gweinyddol a chefnogi a rheolwyr) i ddatblygu ystod eang o sgiliau a phrofiadau.
Bydd Academi yn adnabod talent, datblygu gwybodaeth a chynyddu gallu drwy gynnig ystod o gyfleoedd hyfforddiant, mentora a datblygiad proffesiynol parhaus. Mae astudiaethau yn dangos mai’r modd mwyaf effeithiol i ddatblygu pobl yw hwyluso dysgu ac annog datblygiad personol gan ffocysu ar ddatblygu’r person, nid y sgiliau.
Y nod hefyd yw bod holl staff y sector Dysgu Cymraeg yn teimlo bod Academi yn adnodd sydd yn perthyn iddyn nhw - mae’n cynnig fframwaith i ddatblygu pob person sy’n gweithio yn y sector ac yn cynnig llwybr hyfforddi addas i bawb.