Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Eisiau gweithio fel tiwtor?

Gwybodaeth i ddarpar diwtoriaid

Beth am fod yn diwtor Dysgu Cymraeg i oedolion?

Mae’r dudalen hon yn rhoi blas i chi o waith/gyfrifoldebau tiwtor yn y sector Dysgu Cymraeg - a sut mae mynd ati i wneud cais am swydd tiwtor. 

Mae gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddeg o ddarparwyr ar draws Cymru ac i’r darparwyr hynny mae tiwtoriaid yn gweithio, nid i’r Ganolfan.

Adnoddau Dysgu Cymraeg

Mae’r Ganolfan yn creu adnoddau ar gyfer y cyrsiau:

  • llyfrau cwrs
  • pecynnau adnoddau
  • clipiau sain a fideo
  • cyflwyniadau pwynt pŵer
  • llu o adnoddau digidol

Mae modd gweld yr adnoddau hyn mewn adran arbennig ar dysgucymraeg.cymru o’r enw Academi.  Adran i diwtoriaid yn unig yw hon.

Dilynwch y botymau canlynol i ddysgu mwy am Academi, adnoddau digidol a'r darparwyr lleol:

Dysgu Cymraeg

Mae tua 17,000 o bobl yn dysgu Cymraeg gyda’r Ganolfan bob blwyddyn.  Mae dosbarthiadau yn cael eu cynnig ar bum lefel wahanol: o Fynediad i ddechreuwyr hyd at gyrsiau Gloywi ar gyfer dysgwyr rhugl.

Mae’r dosbarthiadau hyn yn cael eu cynnal yn y gymuned ac ar-lein, yn ystod y dydd a gyda’r nos.  Mae CBAC yn cynnig arholiad ar ddiwedd pob un o’r lefelau, ond mae’r arholiadau hyn yn opsiynol. 

Dilynwch y botwm canlynol i ddysgu mwy am y Lefelau Dysgu Cymraeg:

Cymwysterau

Mae darparwyr lleol a’r Ganolfan yn cynnig hyfforddiant i diwtoriaid yn flynyddol.

Cynhelir sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus gyda phob tiwtor yn unigol.  Mae’n bosib iawn y bydd y darparwr lleol eisiau i chi gwblhau cymhwyster Dechrau Dysgu.

Mae’r cymhwyster hwn ar ffurf dau benwythnos preswyl, a sesiynau rhithiol yn fwy cyson.  Mae ymarfer dysgu yn rhan bwysig iawn o’r cymhwyster hwn.

Defnyddio'r Gymraeg

Un o brif nodau’r Ganolfan yw creu siaradwyr Cymraeg hyderus sy’n defnyddio eu Cymraeg.  Mae’n bwysig ein bod yn annog ein dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth e.e. sesiynau sgwrs, boreau coffi, clybiau darllen, Gŵyl Ddarllen Amdani, teithiau cerdded ac ati, a thrwy fynychu digwyddiadau yn eu cymunedau lleol.

Mae cynllun o’r enw Defnyddio fy Nghymraeg yn annog dysgwyr i osod nodau realistig a chyraeddadwy.  Un o’n cynlluniau ar gyfer Cefnogi Dysgwyr yw cynllun Siarad, lle 'dyn ni’n paru siaradwyr rhugl a dysgwyr i gyfarfod am ddeg awr.  Beth am wirfoddoli?

Dilynwch y botymau canlynol i ddysgu mwy am Defnyddio Fy Nghymraeg a'r cynllun Siarad.

Cofrestru diddordeb

Mae’r Ganolfan yn awyddus i greu cronfa o enwau unigolion sydd â diddordeb i weithio fel tiwtor.  Byddwn yn rhannu eich manylion gyda’r darparwyr a byddan nhw’n cysylltu’n uniongyrchol â chi i drafod unrhyw gyfleoedd gwaith.

Os dych chi eisiau hybu’r Gymraeg a chefnogi siaradwyr newydd, fel aelod o sector gyfeillgar a phroffesiynol, llenwch y ffurflen isod:

Recriwtio Tiwtoriaid

Cliciwch ar y botwm isod i weld ein hysbys.


Llais y Tiwtor

Beth yw'r peth gorau am fod yn diwtor? ''Yr hwyl, y chwerthin a dod i nabod pobl fyddech chi byth yn dod i'w nabod fel arall. A gweld (a chlywed) eich dysgwyr yn llwyddo, wrth gwrs. ''
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddilyn gyrfa yn y sector Dysgu Cymraeg? ''Ceisio helpu pobl i ddysgu'r iaith er mwyn ffitio mewn i'r gymuned a'r diwylliant lleol.''
Cyngor i diwtoriaid newydd? ''Paratoi yn drylwyr a chael llawer o hwyl.''
Cyngor i diwtoriaid newydd? ''Ewch i weld tiwtoriaid eraill wrth eu gwaith - gorau po gynta!''