Cyfnod Data: 1 Awst 2024 - 31 Gorffennaf 2025
Dyddiad Cyhoeddi: Dydd Mawrth 17 Mawrth 2026, 9:30yb
Mae data'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae cronfa ddata ganolog yn casglu gwybodaeth gan bob dysgwr wrth iddynt gofrestru i fynychu cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am y dysgwr (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a’r cwrs (e.e. lefel, lleoliad, dwyster y dysgu).
Dechreuodd y Ganolfan gyhoeddi data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017–2018.
Mae'r data a gyhoeddir yn cynnwys gwybodaeth am holl waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys:
Rhaglenni Dysgu Cymraeg wyneb yn wyneb ac yn rhithiol yn y gymuned
Cynlluniau Dysgu Cymraeg i weithluoedd
Cynlluniau Dysgu Cymraeg i deuluoedd
Cynlluniau Dysgu Cymraeg i bobl ifanc
Mae data 2024–2025 hefyd yn cynnwys darpariaeth o fath gwahanol i'r Ganolfan, sef darparu cyrsiau Codi Hyder i siaradwyr Cymraeg di-hyder.
Mae’r data yn cynnwys ystod o ddulliau dysgu, gan gynnwys dysgu wyneb yn wyneb, dysgu rhithiol, dysgu cyfunol a hunan-astudio.
Cyfnod Data: 1 Awst 2024 - 31 Gorffennaf 2025
Dyddiad Cyhoeddi: Dydd Mawrth 17 Mawrth 2026, 9:30yb
Dyma gyhoeddiadau blaenorol ystadegau Dysgu Cymraeg.
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gyhoeddwyr ystadegau swyddogol. Wrth gyhoeddi ein data, byddwn yn cydymffurfio â Chod Ymarfer Awdurdod Ystadegau'r DU (UKSA).
Beth yw'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau?
Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn gosod y safonau y dylai sefydliadau eu dilyn wrth gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau swyddogol.
Mae’n darparu fframwaith i sicrhau bod ystadegau’n ddibynadwy, o ansawdd uchel ac yn cynnig gwerth i ddefnyddwyr.
Mae’r Cod yn seiliedig ar dri phrif egwyddor: Dibynadwyedd, Ansawdd a Gwerth (DAG). Mae’r egwyddorion hyn yn arwain sefydliadau o ran sut maent yn casglu, rheoli, dadansoddi a chyhoeddi gwybodaeth ystadegol.
Drwy ddilyn y Cod, gall defnyddwyr ein hystadegau fod yn hyderus bod y data a gynhyrchir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn ddibynadwy, yn dryloyw ac yn ddefnyddiol.
Dangos uniondeb
Arwain yn gyfrifol
Bod yn dryloyw
Rheoli data’n gyfrifol
Blaenoriaethu ansawdd
Bod yn drylwyr
Bod yn agored am ansawdd
Bod yn berthnasol
Bod yn glir
Bod yn hygyrch
Byddwn yn hysbysu'r Ystadegydd Cenedlaethol os oes cwynion am safon ein cyhoeddiadau ystadegol.
Byddwn yn adrodd wrth yr Ystadegydd Cenedlaethol os bydd data yn cael ei ryddhau yn ddamweiniol neu mewn modd anghywir.
Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn ymchwilio i amgylchiadau os bydd yn arwain at dorri'r cod ac yn rhoi gwybod i Awdurdod Ystadegau'r DU (UKSA).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am yr ystadegau, yna cysylltwch â Swyddfa@dysgucymraeg.cymru.