Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ystadegau Dysgu Cymraeg 2020-2021

Mae data'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu rheoli gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae cronfa ddata ganolog yn casglu gwybodaeth gan bob dysgwr wrth iddynt gofrestru i fynychu cwrs. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys manylion am y dysgwr (e.e. enw, cyfeiriad, dyddiad geni) a’r cwrs (lefel, lleoliad, dwyster y dysgu).

Mae’r data sy'n cael eu casglu gan y Ganolfan yn wahanol i’r data a gasglwyd ar gyfer y sector yn y gorffennol. Mae’r dull o gasglu’r data hefyd yn wahanol.

Mae data 2020-2021 yn cynnwys gweithgaredd y sector yn ystod cyfnod y pandemig. Effeithiwyd ar weithgaredd y sector wrth i ddysgu wyneb yn wyneb ddod i ben ym Mawrth 2020.  Mae hyn wedi ei adlewyrchu yn rhannol yn data 2019-2020 ac yn rhannol yn data 2020-2021.   Bu toriad i gyllid cynllun Cymraeg Gwaith y Ganolfan yn Ebrill 2020.  Yn sgil hynny, ni fu'n bosib cynnig cyrsiau dwys ar bob lefel ond llwyddwyd i gynyddu'r dewis o gyrsiau hunan-astudio ar lefel Mynediad.  Parhaodd y toriad i gyllid y cynllun tan ddiwedd Mawrth 2021, ac felly bu effaith ar ddata 1 Awst 2020 i 31 Gorffennaf 2021.

Cyhoeddi Data 2020-21

Dyma’r data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020-2021

  • Mae'r ystadegau yn adrodd ar niferoedd cyrsiau wnaeth orffen rhwng 1 Awst 2020 a 31 Gorffennaf 2021.
  • 2017-2018 oedd y gwaelodlin cenedlaethol ac felly gallwn wneud cymariaethau blwyddyn ar flwyddyn wedi hyn.
  • Mae cyrsiau Cymraeg Gwaith yn rhedeg o Ebrill i Fawrth. At bwrpas y cyhoeddiad cyfrifir data’r cyrsiau sydd wedi dod i ben erbyn Gorffennaf 2021 yn unig.
  • Mae data 2020-2021 o’i gymharu â data 2019-2020 yn cynnwys llai o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau hunan-astudio ar lefel Mynediad.
  • Gwelwyd nifer uchel yn troi at y cyrsiau hunan-astudio ar lefel Mynediad ar ddechrau’r cyfnod clo, ac mae hynny’n cael ei adlewyrchu yn data 2019-2020.
  • Mae data 2020-2021 o’i gymharu â data 2019-2020 yn cynnwys mwy o ddysgwyr yn dysgu ar lefelau uwch.

 

Lawrlwytho: Open Data Source

Data 2020-21

 

Cyfnod Data
1 Awst 2020 - 31 Gorffennaf 2021

Dyddiad cyhoeddi
Dydd Mercher 31 Mawrth 2022

Nifer y dysgwyr unigryw

Dysgwyr unigryw

Mae 'niferoedd y dysgwyr unigryw' yn cyfrif pob dysgwr unwaith yn unig, faint bynnag o gyrsiau maent wedi eu dilyn yn ystod y flwyddyn.

  • Yn 2017-2018, roedd 12,680 o ddysgwyr unigryw.
  • Yn 2018-2019, roedd 13,260 o ddysgwyr unigryw.
  • Yn 2019-2020, roedd 17,505 o ddysgwyr unigryw,
  • Yn 2020-2021, roedd 14,965 o ddysgwyr unigryw, lleihad o 15% o gymharu â 2019-2020.
  • Mae niferoedd is 2020-2021 yn adlewyrchu lleihad yn niferoedd y dysgwyr a ddilynodd gyrsiau hunan-astudio ar lefel Mynediad.

Nifer y gweithgareddau dysgu

newid i gweithgareddau dysgu

Gall dysgwyr fynychu mwy nag un gweithgaredd dysgu ar lefel neu ddwyster gwahanol yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, gall dysgwr unigol fynychu cwrs 170 - 259 awr ar lefel Mynediad yn ogystal â chwrs 'fesul awr' ar lefel Sylfaen yn ystod y cyfnod. Cyfrifir hyn fel dau weithgaredd dysgu.

  • Cymerodd dysgwyr 2020-2021 ran mewn 29,175 o weithgareddau dysgu, lleihad o 3% o’i gymharu â 2019-2020.
  • Mae dysgwyr unigol wedi dilyn mwy o weithgareddau dysgu y pen yn ystod 2020-2021, ac felly wedi dysgu yn fwy dwys na 2019-2020.

Lefelau Dysgu

lefelau

Mae cyfleoedd dysgu o fewn y rhaglen Dysgu Cymraeg yn cael eu cynnig ar bump lefel.

  • Yn 2019-2020 roedd 68% o ddysgwyr ar lefel Mynediad.  Roedd 11% ar lefel Sylfaen a 19% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd). 
  • Yn 2020-2021 roedd 63% o ddysgwyr ar lefel Mynediad. Roedd 14% ar lefel Sylfaen a 23% ar lefelau Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd).
  • Yn ystod 2019-2020 bu toriad i gyllid cynllun Cymraeg Gwaith a oedd yn effeithio ar y cyfnod Ebrill 2020-Mawrth 2021 ac ni fu'n bosib cynnig cyrsiau dwys ar bob lefel ond llwyddwyd i gynyddu'r dewis o gyrsiau hunan-astudio ar lefel Mynediad.
  • Yn ystod 2020-2021 bu cynnydd yn y dysgwyr oedd yn dysgu ar lefelau Sylfaen, Canolradd neu Uwch (gan gynnwys Hyfedredd). 

Oed dysgwyr

oed

Cyfrifir oed y dysgwr o ddydd cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw. Ar gyfer 2020-2021, cyfrifir oed y dysgwr ar 1 Awst 2020.

  • Mae 12,795o ddysgwyr 2020 - 2021 o fewn yr ystod oedran gweithio, 16-64 oed, sydd yn 86% o'r holl ddysgwyr. 
  • Mae cyfran y dysgwyr yn yr ystod oedran 16-24 wedi cynyddu dau bwynt canran o'i gymharu â 2019-2020