Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cynlluniau Sectorol

Mae yna ystod eang o gynlluniau Sectorol

Fel rhan o’r cynllun Cymraeg Gwaith, cefnogir nifer o gynlluniau sectorol gwahanol megis y wybodaeth sydd isod - Addysg Bellach/Addysg uwch , Celfyddydau ac Awdurdodau Lleol. Darllenwch isod i wybod mwy.

Addysg Bellach/Addysg Uwch

Rydym yn cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i reoli a gweithredu cynllun penodol sy’n caniatáu Colegau Addysg Bellach a Phrifysgolion i benodi tiwtoriaid yn y gweithle i ddysgu Cymraeg i staff dysgu/addysgu a staff cefnogol. Mae tiwtoriaid yn cael eu cyflogi drwy’r cynllun a’u lleoli yn y sefydliad AU neu AB.

Mae’r cynllun wedi parhau i gyflwyno dulliau amrywiol o ddysgu, gan gynnwys dysgu rhithiol gyda thiwtor, dysgu cyfunol a hunan-ddysgu gyda chefnogaeth Tiwtor. Yn nod yw parhau i gyrraedd nifer uwch a gwneud gwahaniaeth wirioneddol i’r iaith a ddefnyddir gan yr addysgwyr wrth gyflwyno cyrsiau i’r myfyrwyr.

Am fwy o wybodaeth, dilynnwch y dolenni isod:

Addysg Uwch 

Addysg Bellach 

Celfyddydau

Mae cynllun Cymraeg Gwaith wedi gweithio’n agos gyda’r Cyngor Celfyddydau i gynnal ymchwil y farchnad er mwyn adnabod sgiliau iaith o fewn y sector a’r galw am hyfforddiant Dysgu Cymraeg. Roedd yr ymchwil wedi adnabod galw mawr o fewn y sector, a hynny am gyrsiau o bob math ar bob lefel.

Ffocws y cynllun hwn yw annog a chefnogi staff Cyngor Celfyddydau Cymru ac artistiaid unigol, mudiadau a chanolfannau celfyddydol i ddatblygu a thyfu eu gallu i weithio’n Gymraeg a dwyieithog, trwy ddysgu a gwella eu Cymraeg, a chodi hyder. Mae Tiwtor wedi cael ei benodi i’r sector sy’n efelychu rhai o gynlluniau llwyddiannus eraill Cymraeg Gwaith, megis yr Awdurdodau Lleol. Mae’r Tiwtor yn gweithredu Cynllun Cefnogi Dysgwyr yn fewnol ac annog y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith, a chefnogi dysgwyr a thrafod dilyniant a chynlluniau pellach o ran hyfforddiant a’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt.

Awdurdodau Lleol

Lleolir tiwtor llawn amser o fewn chwech Awdurdod Lleol erbyn hyn. Mae’r Tiwtor yn cyflwyno dulliau amrywiol o ddysgu, gan gynnwys dysgu wyneb i wyneb, dysgu cyfunol a rhoi cefnogaeth i ddysgwyr sy’n hunan-astudio. Yn ogystal a hyn mae’r Tiwtor yn darparu cyfleoedd mentora ac ôl-ofal yn gydlynus gyda’r cyflogwr. Yn nod yw parhau i gyrraedd nifer uwch a gwneud gwahaniaeth wirioneddol i’r iaith a ddefnyddir gan yr gweithlu wrth iddyn nhw gynnig gwasanaethau Cymraeg i’r sefydliad.

 Mae’r Awdurdodau Lleol yn manteisio’n fawr ar hyfforddiant Cymraeg Gwaith ac felly mae’r dull hwn yn fwy cost effeithiol. Mae traweffaith lleoli tiwtor o fewn cyflogwr mawr fel awdurdod lleol hefyd yn cyflwyno llwyddiannau amlwg, mae rhaglenni penodol sy’n ymateb i’r galw yn cael ei llunio gan Diwtor sy’n adnabod y sefydliad, ac mae ymrwymiad yn uwch oherwydd bri sy’n cael ei roi ar y gwasanaeth gan y cyflogwr.

Mae’r tiwtoriaid yn cael eu cyflogi gan ddarparwyr Cymraeg Gwaith er mwyn sicrhau eu bod yn rhan o strwythur cefnogi cenedlaethol. Yr Awdurdodau Lleol sy’n rhan o’r cynllun yw:

1. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

2. Cyngor Sir Ceredigion

3. Cyngor Sir Penfro

4. Cyngor Sir Gâr

5. Cyngor Bro Morgannwg

6. Cyngor Caerdydd

Cymdeithas Bêl-droed Cymru - (FAW)

Mae'n haws nag erioed i gefnogwyr pêl-droed Cymru ddysgu a mwynhau'r Gymraeg, diolch i bartneriaeth newydd rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Gallwch ddysgu ar-lein fel naill ai cefnogwr, chwaraewyr, rheolwr neu weithiwr.

Cliciwch ar y botwm isod am fwy o fanylion:

Cymdeithas Bêl-droed Cymru