
Mae Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg yn offeryn diagnostig i'ch helpu i ddarganfod eich lefel o gymhwysedd Cymraeg wrth ddarllen, ysgrifennu, gwrando a siarad. Er mwyn defnyddio'r offeryn bydd angen i chi fod wedi cofrestru. Ar hyn o bryd, mae'r Gwiriwr Lefel yn cael ei beilota, ac nid yw ar gael i bawb. Cadwch lygad ar y dudalen hon am wybodaeth am y datblygiadau diweddaraf.
Os ydych wedi derbyn cod defnyddio i'r Gwiriwr, cofrestrwch neu fewngofnodwch isod.