Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg


Mae'r Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg yn declyn diagnostig sy'n gallu cynnig dangosydd i'r defnyddiwr o'i lefel Cymraeg. Ynddo, ceir pedair adran ar gyfer asesu'r bedair sgil iaith - Gwrando, Siarad, Darllen, ac Ysgrifennu. Bydd canlyniadau'r adrannau Gwrando a Darllen ar gael yn syth wedi i'r adrannau hynny gael eu cwblhau. Bydd y ddwy adran arall, Siarad ac Ysgrifennu, yn cael eu marcio yn gorfforol, a bydd rhaid dychwelyd i'r bwrdd gwaith i ddarganfod y lefelau ar gyfer y ddwy adran hon yn ddiweddarach. Bydd y Gwiriwr yn cynnig dangosydd o lefel gyfartalog y defnyddiwr hefyd, a bydd modd ail-ddefnyddio'r Gwiriwr wedi tri mis i weld a ydy sgiliau iaith Gymraeg y defnyddiwr wedi datblygu.
I gael mwy o wybodaeth am y Gwiriwr Lefel, ebostiwch gwiriwr@dysgucymraeg.cymru