Mae nifer o opsiynau dysgu a datblygu sgiliau Cymraeg ar gael am ddim i bobl ifanc 16-25 oed sy'n dilyn prentisiaeth.
Un opsiwn ydy dysgu Cymraeg gyda phrentisiaid eraill. Gallwch ddysgu mewn grŵp yn rhithiol neu wyneb yn wyneb, gyda gwersi wythnosol, neu batrwm dysgu wedi'i deilwra i'ch anghenion chi. Llenwch y ffurflen dangos diddordeb ar waelod y dudalen, neu cysylltwch â ni dros ebost i drafod: swyddfa@dysgucymraeg.cymru