Mae nifer o opsiynau dysgu a datblygu sgiliau Cymraeg ar gael am ddim i bobl ifanc 18-25 oed sydd mewn gwaith, yn gwrifoddoli, neu'n ddi-waith.
Mae Cynllun Cymraeg Gwaith yn cynnig opsiynau amrywiol. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys:
- Cyrsiau hunan-astudio ar-lein byrion - ar gael unrhyw le, unrhyw bryd, ac mae sawl un wedi'u teilwra i sectorau penodol
- Hunan-astudio gyda chefnogaeth tiwtor
- Cyrsiau wythnosol mewn grŵp - yn rhithiol neu wyneb yn wyneb
- Cwrs Preswyl Codi Hyder i Ddefnyddio'r Gymraeg
Clicia ar y ddolen isod i ddysgu mwy am yr opsiynau sydd ar gael drwy'r Cynllun Cymraeg Gwaith, neu galli di gysylltu â ni trwy ebostio cymraeggwaith@dysgucymraeg.cymru