Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyrsiau Prif Ffrwd

dysgu traddodiadol
Manylion

Wyt ti'n hoffi'r syniad o ddysgu yn y modd traddodiadol - trwy fynychu gwersi wythnosol? Os felly, dyma'r math o gwrs i ti.

Mae sawl opsiwn o ran dull dysgu y math hwn o gwrs:

- Wyneb-i-wyneb: yn y dosbarth

- Rhithiol: mewn grŵp, gyda thiwtor

- Cyfunol (wyneb-i-wyneb): elfennau o hunan-astudio ar-lein ynghyd â dysgu wyneb-i-wyneb yn y dosbarth

- Cyfunol (rhithiol): elfennau o hunan-astudio ar-lein ynghyd â dysgu mewn dosbarth rhithiol (dros Teams/Zoom)

Mae'r cyrsiau hyn yn cael eu cynnig ar bob lefel - Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch, Hyfedredd. Felly, mae cwrs ar gael ar dy lefel di, lle bynnag rwyt ti arni.

Fel arfer, mae lefel gyfan yn cymryd 120 awr o amser dysgu. Gall y nifer o oriau dysgu bob wythnos amrywio (fel arfer, 2-4 awr/wythnos); ac mae hefyd opsiynau i ddysgu'n ddwys (e.e. pythefnos yn llawn amser).

Mae modd sefyll arholiad CBAC lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd, ac Uwch.

Dyma gyfle i gymysgu yn y dosbarth gyda dysgwyr eraill o bob oed a chefndir. 

Ni fydd angen i ti dalu am y cwrs hwn os wyt ti rhwng 16 a 25 oed.

Chwilio am gwrs

Defnyddia'r Dewin Dysgu isod i ddod o hyd i gwrs.

Os oes gen ti gwestiynau, galli di gysylltu gyda dy ddarparwr lleol - mae'r manylion ar gael fan hyn.

Dewin chwilio am gwrs
Cyn i chi ddechrau eich taith iaith gyffrous, beth am ateb rhai cwestiynau syml?