Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Arlunydd o Abertawe yn cyhoeddi llyfr am yr wyddor Gymraeg

Arlunydd o Abertawe yn cyhoeddi llyfr am yr wyddor Gymraeg

Mae arlunydd o Abertawe wedi cael ei ysbrydoli i greu llyfr am yr wyddor Gymraeg.

Mae Mark Hughes yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yng nghanolfan Tŷ Tawe, Abertawe.  Penderfynodd Mark ddarlunio llythyren wahanol bob dydd nôl ym mis Hydref, fel rhan o gystadleuaeth arbennig i arlunwyr proffesiynol o’r enw Inktober.

Ar ôl cwblhau’r sialens, aeth ati i gyhoeddi’r gwaith gorffenedig mewn llyfr o’r enw ‘Yr Wyddor’.  Mae’r llyfr ar werth ar-lein ac yn siop Tŷ Tawe a siop lyfrau ‘Cover to Cover’ yn y Mwmbwls.

Meddai Mark:

‘‘Dw i wedi bod eisiau creu llyfr am yr wyddor Gymraeg ers tro ond nes i fyth orffen y dasg.  Mi nes i ddangos rhai o’r darluniau gorffenedig i’m tiwtor cefnogol, Robin Campbell a bu’n ddylanwad mawr arna i wrth i mi barhau i orffen yr wyddor y tro yma.  Wrth i mi greu mwy a mwy o ddarluniau, soniodd rhywun y dylwn i eu cyhoeddi mewn llyfr a dyna ddigwyddodd.’’

Ychwanegodd Robin Campbell, tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe:

‘‘Mae Mark yn gymeriad hoffus iawn ac mae ganddo’r gallu i wneud i eraill chwerthin.  Mae’n awyddus i ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg, yn arlunydd talentog tu hwnt ac mae ei luniau yn arbennig o unigryw.’’

Mae Mark wrth ei fodd yn mynychu sesiynau ‘Sadwrn Siarad’ yn Nhŷ Tawe, yn ogystal â’r sesiwn werin fisol.  Mae Mark yn gwerthfawrogi’r cyfle i ymarfer y Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol a chyfarfod dysgwyr a siaradwyr Cymraeg mewn digwyddiadau o’r fath yn Abertawe.

‘‘Ers i mi ddechrau dysgu’r iaith, dw i wedi sylweddoli bod cymaint o fy nghwmpas i yn siarad Cymraeg,’’ meddai Mark.  ‘‘Dw i wrth fy modd yn clywed pobl yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd.’’

I ddod o hyd i gwrs Dysgu Cymraeg, neu gyfleoedd i ymarfer yr iaith yn Ardal Bae Abertawe, ewch i dysgucymraeg.cymru