Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Arlunydd o wlad Pwyl yn dysgu Cymraeg ac yn creu bywyd newydd yng Nghymru

Karolina Jones

Mae myfyrwraig o wlad Pwyl wnaeth syrthio mewn cariad gyda Chymru yn ystod ei chwrs gradd yng ngwlad Pwyl, wedi symud i Gymru i fod gyda’i gŵr, ac mae’n gwneud enw iddi hi ei hun fel arlunydd gweledol.

Aeth Karolina Jones, sy’n wreiddiol o Piła yng ngogledd orllewin gwlad Pwyl, i Brifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań er mwyn astudio Ieitheg Saesneg ac Astudiaethau Celtaidd.  Fel rhan o’i chwrs, mi wnaeth astudio’r Gymraeg a dechreuodd ddangos diddordeb yn nyfodol yr iaith.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mi fagodd ddigon o hyder i siarad Cymraeg gyda Kyle Jones, oedd ar ymweliad â Phrifysgol Karolina fel darlithydd gwadd.  Mi wnaethon nhw ganlyn am ddwy flynedd, cyn i Karolina symud i Gymru yn 2019, ac mi wnaethon nhw briodi y llynedd.

Ar ôl dechrau dysgu Cymraeg yng ngwlad Pwyl, mae Karolina bellach yn mynychu cwrs lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mae hefyd yn aelod o glwb darllen ar-lein ac yn mynychu Sadyrnau Siarad yn Nhŷ Tawe, Abertawe.

Dros y blynyddoedd, mi wnaeth Karolina bendroni a allai hi alw Cymru’n gartref iddi ei hun;

‘‘Roedd y brwydrau hanesyddol a ieithyddol y mae Cymru wedi’u hwynebu yn fy atgoffa o hanes gwlad Pwyl, ac o ganlyniad, dechreuais deimlo’n agos at Gymru.  Er cymaint dw i’n caru fy nheulu, fy ffrindiau, fy niwylliant a fy ngwlad, dw i’n teimlo 100% fy hun yng Nghymru.’’

Yn ddiweddar, graddiodd Karolina gyda MA mewn Cyfathrebu Gweledol o Goleg Celf Abertawe, a chafodd ei phrosiect gradd ‘the Polkymraes’ (Polk- o Polka - mewn Pwyleg: menyw o Wlad Pwyl, -ymraes o Cymraes - yn Gymraeg: menyw o Gymru), ei ysbrydoli gan ddylanwadau’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn ogystal â’i threftadaeth Bwylaidd.  Cafodd gwaith celf Karolina ei arddangos yn ‘Y Lle Celf’ yn ystod Eisteddfod AmGen 2021;  

‘‘Roedd gweld fy ngwaith yn cael ei arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn freuddwyd ieithyddol a chelfyddydol, a phan wnes i glywed y newyddion, do’n i ddim yn gallu credu’r peth.  Dw i wrth fy modd mod i’n gallu siarad Cymraeg, ac yn gallu defnyddio’r iaith a’r diwylliant yn fy ngwaith creadigol.’’

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Karolina wedi mwynhau magu hyder wrth ddarllen, siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg.  Er gwaethaf ei hamheuon am ddysgu Cymraeg ar-lein, mae hi wedi cael ei siomi ar yr ochr orau;

‘‘Dw i’n mwynhau dysgu mewn dosbarth rhithiol, achos dw i’n gallu troi fy ngliniadur ymlaen a dechrau’r dosbarth.  Does dim rhaid meddwl am deithio ac mae hynny’n arbed amser.  Ro’n i’n poeni na fyddwn i’n gallu deall unrhyw un, oherwydd y microffonau a’r acenion gwahanol oedd gan bobl, ond ces i fy synnu, ac ro’n i’n hapus fy mod i’n gallu deall pawb.’’

Ers symud i Gymru, dywed Karolina ei bod wedi cael ei chroesawu gyda breichiau agored, a byddai’n annog eraill i ddysgu’r iaith;

‘‘Dw i wrth fy modd fy mod i’n gallu siarad gyda fy ngŵr a’i deulu yn Gymraeg.  Mae gallu siarad Cymraeg wedi golygu bod lle arall i mi yn y byd ar wahân i fy ngwlad fy hun.  Pan dw i’n siarad Cymraeg gyda rhywun, dw i’n teimlo fy mod i’n gwneud ffrind newydd.  Mae dysgu iaith yn golygu ymrwymiad, ond dydy o ddim yn amhosib.  Peidiwch â chymharu eich hun ag eraill, dewch o hyd i’ch dull eich hun a sicrhewch bod y Gymraeg mor fyw â phosibl yn eich meddwl.’’

Rhagor o wybodaeth am waith celf Karolina: karoinna.co.uk