Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Arweinydd o Awstralia yn dysgu Cymraeg o’r Iseldiroedd

Jen Bailey

Mi wnaeth arweinydd o Awstralia, sydd bellach yn byw yn yr Iseldiroedd, benderfynu dysgu Cymraeg y llynedd ac mae wedi syrthio mewn cariad gyda’r iaith a’i hanes.

Roedd Jen Bailey eisoes yn siarad wyth iaith, ond penderfynodd ddysgu Cymraeg gan ddechrau trwy ddefnyddio ap Duolingo.  Yna, cofrestrodd ar gwrs Dysgu Cymraeg ac mae bellach yn mynychu cwrs lefel Canolradd, gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cafodd Jen ei magu ar fferm yn Wheatbelt, Gorllewin Awstralia ac mae’n cofio darllen The Grey King gan Susan Cooper pan yn blentyn, nofel sydd wedi’i lleoli yng Nghymru;

‘‘Taniwyd fy niddordeb yn y Gymraeg pan oeddwn yn ifanc, a dw i mor falch fy mod i’n dysgu’r iaith erbyn hyn.  Mae’n gyfnod gwych i ddysgu Cymraeg ar-lein, a dw i’n manteisio ar bob cyfle posib i siarad Cymraeg trwy fynychu boreau coffi rhithiol, sesiynau coginio a llawer mwy.’’

Yn ystod ei gyrfa, mae Jen wedi teithio i bedwar ban byd, a chyn ymgartrefu yn yr Iseldiroedd bu’n byw yn America, Ffrainc, yr Almaen, y Weriniaeth Tsiec, Libya, yr Alban a Lloegr.  O ganlyniad, mae wedi dysgu sawl iaith ac mae ganddi gyngor doeth i unrhyw un sy’n dymuno dysgu Cymraeg;

‘‘Mae’n anodd defnyddio unrhyw iaith os mai rhai geiriau yn unig sy’n gyfarwydd.  Hoffwn annog eraill i fynd amdani a defnyddio eu Cymraeg cymaint â phosib!  Cofrestrwch ar gwrs gyda www.dysgucymraeg.cymru, darllenwch gymaint o Gymraeg ag y gallwch a chadwch mewn cysylltiad gyda dysgwyr eraill.’’

Dros y blynyddoedd, mae Jen wedi arwain cerddorfeydd prifysgol, bandiau a chorau ar hyd a lled y byd.  Ers dechrau’r pandemig, mae Jen wedi troi ei llaw at ddysgu cerddoriaeth ar-lein, a dysgu Cymraeg yn ei hamser hamdden.

Yn ôl Jen;

‘‘Mae’r cyfnod clo wedi bod yn anodd i gerddorion, gan fod cerddorfeydd wedi gorfod rhoi’r gorau i ymarfer a pherfformio, ac mae cynllunio ar gyfer y dyfodol agos wedi bod yn amhosib.  Dw i’n falch fy mod i wedi defnyddio’r cyfnod yma i ddysgu Cymraeg a dod i adnabod rhai o’r tiwtoriaid bendigedig sy’n amlwg wrth eu boddau gyda’r hyn y maent yn ei wneud.’’

Ychwanegodd tiwtor Jen, Catherine Davies-Woodrow;

‘‘Mae dysgu Jen yn bleser pur.  Mae ei chymeriad lliwgar, a’i dawn naturiol i ddysgu ieithoedd i’w gweld yn glir yn y sesiynau Zoom.  Bydd Jen yn rhugl cyn bo hir a’r Gymraeg yn dod yn rhan o’i ‘repertoire!’  Mae’n galonogol gweld cymaint yw apêl y Gymraeg ledled y byd.’’