Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Athrawes sy’n byw yn Kuwait yn dysgu Cymraeg

Athrawes sy’n byw yn Kuwait yn dysgu Cymraeg
Ann Turner

Mae athrawes Saesneg, sydd wedi dysgu mewn nifer o wledydd dros y blynyddoedd, bellach yn dysgu Cymraeg o’i chartref yn Kuwait.

Mi wnaeth Ann Turner symud i Kuwait yn ddiweddar ar ôl cael ei phenodi i swydd dysgu Saesneg i bobl sy’n siarad ieithoedd eraill, mewn Prifysgol Americanaidd.  Cyn symud i Kuwait, bu’n gweithio am gyfnod yn Saudia Arabia, Yr Almaen, a chyn hynny bu’n dysgu myfyrwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Essex.

Cafodd Ann ei magu yng ngogledd Essex, ac mi ddatblygodd ei diddordeb yn y Gymraeg ar ôl iddi gyfarfod Simon, ei gŵr.  Treuliodd Simon, a ddaw yn wreiddiol o Swydd Gaerloyw, gyfnodau helaeth yng ngogledd Cymru pan yn blentyn.  Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, treuliodd Ann a Simon eu gwyliau cyntaf fel pâr priod ym Meddgelert, Gwynedd.  Cawsant fodd i fyw yn cerdded y mynyddoedd fel yr eglura Ann;

‘‘Mae fy ngŵr yn caru Cymru a rygbi ac mi wnaeth hynny sbarduno fy niddordeb yn y Gymraeg!  ’Dyn ni wedi mwynhau gwyliau lu gyda’n gilydd yng ngogledd Cymru, a dw i bob amser yn rhyfeddu at yr arwyddion ffyrdd, a’r ffaith fod Cymru mor hardd, a’r iaith Gymraeg mor wahanol a hynafol.’’

Mae Ann eisoes yn siarad Ffrangeg, Eidaleg ac ychydig o Arabeg ac mae hi’n mwynhau’r broses o ddysgu Cymraeg ar Zoom.  Mae hi’n astudio cwrs lefel Mynediad ar gyfer dechreuwyr gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mae Ann yn ymuno â’r dosbarth rhwng 9yh-12yb amser Kuwait.  Meddai tiwtor Ann, Catherine Davies-Woodrow;

‘‘Mae Ann yn gwneud yn arbennig o dda yn y sesiynau, yn enwedig o ystyried ei bod yn astudio mor hwyr yn y nos!  Mae’n amlwg bod ganddi ddiddordeb mawr mewn ieithoedd a dw i’n gobeithio y gwnaiff hi barhau i ddysgu.  Mae stori Ann yn profi fod dysgu Cymraeg dros Zoom wedi creu cymuned fyd eang, a bod modd i unrhyw un ymuno o bedwar ban byd.’’

Mae Ann yn gobeithio symud i Gymru rhyw ddydd a pharhau i ddysgu Cymraeg.  Mae Simon, ei gŵr, wedi llogi tŷ yn Ystradgynlais ac mae’n edrych ymlaen at dreulio amser yno yn ystod y gwyliau;

‘‘Dw i’n bwriadu aros yn Kuwait am flwyddyn neu ddwy, ond pan fyddaf yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn ystod y gwyliau, dw i’n gobeithio gweld y tŷ mae fy ngŵr wedi’i logi er mwyn cerdded y mynyddoedd.  Dw i am barhau i ddysgu Cymraeg – a dw i’n teimlo’n hynod ffodus fod modd i mi ddysgu Cymraeg a finnau mor bell o Gymru.’’