Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Blynyddoedd Cynnar - cynllun newydd

Blynyddoedd Cynnar - cynllun newydd

Cynllun newydd i helpu gweithwyr Blynyddoedd Cynnar i gryfhau
eu sgiliau Cymraeg 

Mae cynllun arloesol i helpu pobl sy'n gweithio yn y sector addysg a gofal plant Blynyddoedd Cynnar i gryfhau eu sgiliau Cymraeg yn cael ei gyflwyno gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd athrawon meithrin, gwarchodwyr plant a staff mewn grwpiau chwarae, meithrinfeydd dydd a chylchoedd meithrin ymysg yr ymarferwyr sy'n cymryd rhan yng nghynllun Dysgu Cymraeg ‘Camau’, cyhoeddodd y Ganolfan.

Bydd y cynllun yn helpu ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar i ymateb yn fwy effeithiol i gwricwlwm newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru a’r Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant tair i saith oed.  Mae Datblygu'r Gymraeg yn un o'r saith meysydd dysgu a nodwyd yn y Cyfnod Sylfaen.

Disgwylir y bydd 350 o ymarferwyr yn mynychu hyfforddiant wyneb-yn-wyneb yn y Gymraeg dros y flwyddyn nesaf gyda 1,000 arall yn dilyn cwrs ymwybyddiaeth iaith.

Bydd y cynllun yn cyfrannu arian i gyflogwyr ganiatáu i'w gweithwyr fynychu cyrsiau hyfforddi i gynyddu eu sgiliau iaith Gymraeg.

Cefnogir Cynllun Dysgu Cymraeg ‘Camau’ gan £250,000 o gyllid Llywodraeth Cymru a bydd yn cael ei gynnal am flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020 yn y lle cyntaf.

Mae'n cael ei gyflwyno ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gan Ymgynghoriaeth Sbectrwm, y partner arweiniol mewn consortiwm sydd hefyd yn cynnwys Canolfan Gwasanaethau Cymraeg Rhagoriaith, a Choleg Cambria, yn dilyn cynnig tendr llwyddiannus.

Mae'r cynllun yn rhan o fenter Cymraeg Gwaith y Ganolfan sy'n cryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle.  Mae Cymraeg Gwaith yn darparu hyfforddiant addas a hyblyg wedi'i ariannu'n llawn i gyflogwyr.  Mae'r cynllun wedi bod yn llwyddiant sylweddol gyda thua 13,000 o unigolion yn cymryd rhan ers ei lansio yn 2017.

Manteision i blant iau

Wrth gyhoeddi cynllun Camau, dywedodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Bydd y cynllun yn galluogi ymarferwyr ar draws y sector Blynyddoedd Cynnar i gynyddu eu sgiliau iaith Gymraeg a fydd yn ei dro o fudd sylweddol i blant ifanc iawn wrth iddynt ddechrau ar eu taith i fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

“Rydym yn gwybod bod caffael iaith yn digwydd yn gyflym ac yn naturiol mewn plant hyd at bump oed.  Mae hyn yn arbennig o berthnasol yng ngyd-destun cynigion Llywodraeth Cymru i gynyddu'r oriau o gyllid gofal plant i rieni cymwys sy'n gweithio ac sydd gyda phlant tair a phedair oed i 30 awr am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.”

Ychwanegodd: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag Ymgynghoriaeth Sbectrwm i gyflwyno'r fenter ddiweddaraf hon i ystod eang o raglenni'r Ganolfan sy'n helpu pobl o bob cwr o Gymru i ddysgu Cymraeg.”

Dywedodd Cefin Campbell, Rheolwr Gyfarwyddwr Ymgynghoriaeth Sbectrwm:  “Mae’r cynllun Dysgu Cymraeg newydd hwn yn ateb galw go iawn o fewn y sector Blynyddoedd Cynnar i gryfhau sgiliau Cymraeg ymarferwyr.

“Ochr yn ochr â’n partneriaid, Rhagoriaith a Choleg Cambria, rydym yn edrych ymlaen at weithredu’r rhaglen ddysgu hyblyg hon, sydd wedi’i theilwra’n unswydd ar gyfer y sector, dros y 12 mis nesaf.”

Cydweithio â'r sector

Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi gweithio'n agos gyda CWLWM (rhwydwaith o sefydliadau sy'n cynnwys cylchoedd meithrin, grwpiau chwarae, meithrinfeydd dydd, gwarchodwyr plant a chlybiau cyn ac ar ôl ysgol) i ddatblygu’r cynllun.

Yn ystod 2017/18, sefydlwyd prosiect i asesu sgiliau iaith Gymraeg gweithwyr yn y gweithle, gan samplu ar draws gwahanol fathau o swyddi a darparwyr.  Datblygwyd erfyn diagnostig, o’r enw y Gwiriwr Lefel Iaith Gymraeg, i helpu adnabod sgiliau iaith gweithwyr o fewn y sector.

Mae nodi anghenion hyfforddiant ieithyddol wedi arwain at gomisiynu pum cwrs pwrpasol ar wahanol lefelau rhuglder - Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch - yn ogystal â chwrs ychwanegol ar gyfer y sector chwarae, ar lefel Mynediad.

Yn ystod 2018/19 cynhaliwyd naw cwrs peilot yn dilyn pedwar model cyflwyno ar wahân, gydag adborth cadarnhaol iawn.

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

  1. Saesneg yw'r brif iaith a siaredir gan 77% o ymarferwyr gofal plant yng Nghymru gyda 13% yn siarad Cymraeg a 10% yn defnyddio'r ddwy iaith, yn ôl data diweddaraf Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (2017).
  2. Sefydlwyd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dilyn adolygiad gan Lywodraeth Cymru o'r enw ‘Codi Golygon’ a oedd yn argymell creu un corff i fod yn gyfrifol am y maes Cymraeg i Oedolion.
  3. Yn dilyn proses dendro, enillodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant y cytundeb i sefydlu'r Ganolfan.  Ariennir y Ganolfan gan Lywodraeth Cymru.
  4. Dechreuodd y Ganolfan ar ei gwaith yn swyddogol ym mis Awst 2016.
  5. Mae'r Ganolfan yn cytundebu 11 o ddarparwyr cyrsiau (gan gynnwys prifysgolion, colegau addysg bellach a chynghorau sir) sy'n rhedeg cyrsiau ar ei rhan ym mhob rhan o Gymru.
  6. Cynhelir tua 1,500 o gyrsiau bob blwyddyn mewn cymunedau ledled y wlad.
  7. Gwybodaeth bellach: dysgucymraeg.cymru