Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn chwilio am fyfyrwyr i gymryd rhan yng nghynllun hyfforddiant ‘Tiwtoriaid Yfory’.
Bydd y Ganolfan yn cynnal yr hyfforddiant rhwng 15 Gorffennaf a 23 Awst 2024, gyda’r nod o gyflwyno pobl ifanc i’r sector Dysgu Cymraeg, ac annog mwy i weithio fel tiwtor.
Dyma’r trydydd tro i’r Ganolfan gynnal y cynllun, sy’n cynnwys gweithdai gyda thiwtoriaid profiadol, a chyfleoedd i arsylwi dosbarthiadau Cwrs Haf Dysgu Cymraeg Caerdydd, un o ddarparwyr y Ganolfan, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd.
Roedd Meg Jones-Evans yn un o’r myfyrwyr ar y cynllun y llynedd. Meddai Meg, ‘‘All geiriau ddim cyfleu gymaint nes i fwynhau cwrs Tiwtoriaid Yfory. O’r bore cyntaf, roeddwn i’n hollol sicr mai hwn oedd y dewis gorau i mi ei wneud ers blynyddoedd!
“Roedd yn bleser gallu byw yn Gymraeg, a theimlo bod byd y Gymraeg yn cynrychioli mwy na gwersi ysgol a sgwrsio gyda’r teulu (fel yr oedd hi i mi cyn hynny). Trwy gael yr elfen gymdeithasol law-yn-llaw gyda’r cynnwys difyr ar y cwrs, llwyddwyd i greu profiad bythgofiadwy.
“Rhaid i’r Gymraeg fod yn groesawgar i bawb, ac mae tiwtoriaid yn rhan hanfodol o sicrhau hyn. Dyma oedd neges bwysicaf y cwrs i mi ac mae wedi fy ysbrydoli i feddwl am ddilyn gyrfa yn y maes.”
Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Pleser pur oedd treulio pythefnos yng nghwmni 15 o Diwtoriaid Yfory yn ystod mis Gorffennaf 2023.
“Yn dilyn sesiynau ymarferol, cyfleoedd i arsylwi gwersi a sesiynau gan siaradwyr gwadd, mae’n wych dweud bod rhai o’r bobl ifanc eisoes yn gweithio fel tiwtoriaid Dysgu Cymraeg.
“Bydd gennym rai o diwtoriaid mwyaf profiadol y sector Dysgu Cymraeg i oedolion yn hyfforddi ar y cynllun eto yn 2024.
“’Dyn ni’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir, ac yn edrych ymlaen at gynnig profiadau dysgu ac addysgu gwerthfawr iddynt.”
Ychwanegodd Helen, “Gyda galw cynyddol am diwtoriaid ledled Cymru, ’dyn ni angen cyflenwad cyson o dalent newydd ac mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael blas ar y gwaith.
“Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc wneud cais – ’dyn ni’n chwilio am bobl all ysbrydoli eraill i ddysgu a siarad Cymraeg, gyda sgiliau cadarn yn y Gymraeg eu hunain.”
Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer cymryd rhan yn y cynllun yw 29 Chwefror 2024 a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn diwedd mis Mawrth.
Llun: Criw Tiwtoriaid Yfory 2023 gyda Haydn Hughes (canol), darlithydd ar y cwrs.