Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Chwilio am diwtoriaid Dysgu Cymraeg yfory

Chwilio am diwtoriaid Dysgu Cymraeg yfory

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn chwilio am fyfyrwyr i gymryd rhan yng nghynllun hyfforddiant ‘Tiwtoriaid Yfory’.

Bydd y Ganolfan yn cynnal yr hyfforddiant rhwng 15 Gorffennaf a 23 Awst 2024, gyda’r nod o gyflwyno pobl ifanc i’r sector Dysgu Cymraeg, ac annog mwy i weithio fel tiwtor.

Dyma’r trydydd tro i’r Ganolfan gynnal y cynllun, sy’n cynnwys gweithdai gyda thiwtoriaid profiadol, a chyfleoedd i arsylwi dosbarthiadau Cwrs Haf Dysgu Cymraeg Caerdydd, un o ddarparwyr y Ganolfan, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd.

Roedd Meg Jones-Evans yn un o’r myfyrwyr ar y cynllun y llynedd.  Meddai Meg, ‘‘All geiriau ddim cyfleu gymaint nes i fwynhau cwrs Tiwtoriaid Yfory. O’r bore cyntaf, roeddwn i’n hollol sicr mai hwn oedd y dewis gorau i mi ei wneud ers blynyddoedd!

“Roedd yn bleser gallu byw yn Gymraeg, a theimlo bod byd y Gymraeg yn cynrychioli mwy na gwersi ysgol a sgwrsio gyda’r teulu (fel yr oedd hi i mi cyn hynny).  Trwy gael yr elfen gymdeithasol law-yn-llaw gyda’r cynnwys difyr ar y cwrs, llwyddwyd i greu profiad bythgofiadwy.

“Rhaid i’r Gymraeg fod yn groesawgar i bawb, ac mae tiwtoriaid yn rhan hanfodol o sicrhau hyn. Dyma oedd neges bwysicaf y cwrs i mi ac mae wedi fy ysbrydoli i feddwl am ddilyn gyrfa yn y maes.”

Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Pleser pur oedd treulio pythefnos yng nghwmni 15 o Diwtoriaid Yfory yn ystod mis Gorffennaf 2023.

“Yn dilyn sesiynau ymarferol, cyfleoedd i arsylwi gwersi a sesiynau gan siaradwyr gwadd, mae’n wych dweud bod rhai o’r bobl ifanc eisoes yn gweithio fel tiwtoriaid Dysgu Cymraeg.

“Bydd gennym rai o diwtoriaid mwyaf profiadol y sector Dysgu Cymraeg i oedolion yn hyfforddi ar y cynllun eto yn 2024.

“’Dyn ni’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir, ac yn edrych ymlaen at gynnig profiadau dysgu ac addysgu gwerthfawr iddynt.”

Ychwanegodd Helen, “Gyda galw cynyddol am diwtoriaid ledled Cymru, ’dyn ni angen cyflenwad cyson o dalent newydd ac mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael blas ar y gwaith.

“Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc wneud cais – ’dyn ni’n chwilio am bobl all ysbrydoli eraill i ddysgu a siarad Cymraeg, gyda sgiliau cadarn yn y Gymraeg eu hunain.”

Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer cymryd rhan yn y cynllun yw 29 Chwefror 2024 a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu erbyn diwedd mis Mawrth.

Llun: Criw Tiwtoriaid Yfory 2023 gyda Haydn Hughes (canol), darlithydd ar y cwrs.